Ricky Martin

Oddi ar Wicipedia
Ricky Martin
FfugenwRicky Martin Edit this on Wikidata
GanwydEnrique José Martín Morales Edit this on Wikidata
24 Rhagfyr 1971 Edit this on Wikidata
San Juan Edit this on Wikidata
Man preswylLos Angeles Edit this on Wikidata
Label recordioSony Music, Columbia Records, Sony Music Entertainment Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America, Sbaen Edit this on Wikidata
Galwedigaethcanwr, actor llwyfan, cyfansoddwr, model, actor teledu, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
SwyddLlysgennad Ewyllus Da UNICEF Edit this on Wikidata
Arddullcerddoriaeth boblogaidd, roc poblogaidd, pop Llandinaidd, cyfoes R&B, pop dawns, reggae, reggaeton, music of Latin America Edit this on Wikidata
PriodJwan Yosef Edit this on Wikidata
Gwobr/auLatin Recording Academy Person of the Year, Lo Nuestro Excellence Award, Grammy Award for Best Latin Pop Album, Grammy Award for Best Latin Pop Album, Latin Grammy Award for Best Male Pop Vocal Album, Latin Grammy Award for Best Pop Vocal Album, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Billboard Spirit of Hope Award Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://rickymartinmusic.com/ Edit this on Wikidata

Actor a chantor o Buerto Rico yw Ricky Martin, ganwyd Enrique Martín Morales (24 Rhagfyr 1971).

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Roedd Martin mewn perthynas platonaidd gyda'r cyflwynydd teledu Mecsicanaidd Rebecca de Alba am dros 14 mlynedd. Roedd y cwpl wedi siarad am ddechrau teulu gyda'i gilydd,[1][2][3] a roedd Martin wedi ystyried gofyn iddi ei briodi.[4] Yn Awst 2008, daeth Martin yn dad i ddau fachgen efaill, Matteo a Valentino, ganwyd drwy dirprwy fam.[5]

Yn dilyn llwyddiant "Livin' la Vida Loca," daeth bywyd personol Martin yn bwnc o ddiddordeb oherwydd ei nifer uchel o ddilynwyr hoyw, a gofynnwyd iddo am ei rywioldeb. Mewn cyfweliad yn Rhagfyr 2000 gyda'r Daily Mirror, gofynnwyd iddo wneud sylw am y sîon ynglŷn a'i rywioldeb ac atebodd "I don't think I should have to tell anyone if I am gay or not, or who I've slept with or not."[6] Yn 2010, mynegodd Barbara Walters ei bod yn difaru ychydig am wthio Martin i ddweud ei fod yn hoyw mewn cyfweliad yn 2000. Fe'i dyfynnwyd yn y Toronto Star yn dweud, "When I think back on it now, I feel it was an inappropriate question."[7][8] Ar 29 Mawrth 2010, cyhoeddodd Martin ei fod yn hoyw mewn neges ar ei wefan swyddogol, gan ddweud: "I am proud to say that I am a fortunate homosexual man. I am very blessed to be who I am."[9][10] Dywedodd fod "these years in silence and reflection made me stronger and reminded me that acceptance has to come from within, and that this kind of truth gives me the power to conquer emotions I didn't even know existed."[11]

Yn 2010, dywedodd Martin ei fod yn meddwl yn flynyddoedd ei fod yn ddeurywiol, gan ddweud wrth Oprah Winfrey "I felt it with a woman, I felt passion and it felt good. And I'm sure I'm not the only gay man that felt attraction towards women...Sometimes I really did fall in love with women, for many years I did."[12][13] Cyhoeddoedd ar The Oprah Winfrey Show ei fod mewn perthynas.[14] Yn 2011, wrth dderbyn Gwobr Vito Russo yn 22ain Gwobrau Cyfryngau GLAAD, diolchodd Martin yn gyhoeddus i'w gariad, Carlos González Abella, economegydd.[15][16] Daeth ei berthynas â González Abella i ben yn Ionawr 2014.[17]

Yn 2012, mewn cyfweliad gyda Spanish Vanity Fair, dywedodd Martin, "I don’t regret anything, any of the relationships I've lived. They taught me a lot, both men and women equally."[18][19] Yn 2016, dywedodd fod ganddo atyniad at fenywod a dynion ond o ran perthynas ramantaidd roedd ei ddiddordeb mewn dynion yn unig, a felly nid oedd yn gweld ei hun yn ddeurywiol. Mewn cyfweliad gyda cylchgrawn Mecsicanaidd Fama! dywedodd ei fod yn hoyw, fod dynion yn ei gyfareddu ond ei fod yn hoff o ryw mewn rhyddidd llwyr, felly mae'n agored i gael rhyw gyda menyw os oes ganddo'r awydd.[20]

Mewn cyfweliad ar Larry King Live, rhoddodd Martin ei gefnogaeth i briodas gyfunryw.[21] Gwnaeth araith yng Nghynhadledd Homoffobia y Cenhedloedd Unedig ar 12 Tachwedd 2012.[22] Yn Ebrill 2016, cychwynodd garu gyda Jwan Yosef, arlunydd Syriaidd-Swedaidd o dras Cwrdaidd ac Armenaidd.[23][24] Cyhoeddodd y cwpl ei dyweddiad ar 16 Tachwedd 2016, ar sioe Ellen DeGeneres.[25] Yn Ionawr 2018, cyhoeddodd Martin ei fod wedi priodi Yosef.[26] Ar 31 Rhagfyr 2018, cyhoeddodd Martin a Yosef, drwy Instagram, enedigaeth ei merch Lucía Martin-Yosef.[27]

Teledu[golygu | golygu cod]

Discograffi[golygu | golygu cod]


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Ricky Martin". Hellomagazine. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-07-21. Cyrchwyd 2019-02-22.
  2. "Ricky Martin". Hellomagazine.
  3. "Rebeca de Alba saw Ricky Martin as the father of their children (translated)". TelemundoLA. Archifwyd o'r gwreiddiol ar October 6, 2011. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  4. Ricky likes being alone. Metro.co.uk (2 Awst 2007). Cyrchwyd ar 25 Chwefror 2011.
  5. Ricky Martin has twins babies and 'no nanny' – USATODAY.com. Content.usatoday.com (10 Rhagfyr 2008). Cyrchwyd ar 25 Chwefror 2011.
  6. Sally Morgan "Ricky Martin – It's no one's business whether I've been to bed with a cow, a broom or a woman...",[dolen marw] The Mirror, 9 Rhagfyr 2000
  7. "Barbara Walters Regrets Ricky Martin Interview". PopEater.com. 9 Mawrth 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-10-29. Cyrchwyd 2 AWst 2010. Check date values in: |accessdate= (help)
  8. Ouzounian, Richard (6 Mawrth 2010). "Barbara Walters: What kind of tree is she?". Toronto Star. Toronto. Cyrchwyd 2 Awst 2010.
  9. "Ricky Martin Gay Bombshell: 'I am a Fortunate Homosexual Man'" Archifwyd 2018-10-06 yn y Peiriant Wayback., PopEater.com Staff, 29 Mawrth 2010
  10. Thomson, Katherine (29 Mawrth 2010). "Ricky Martin Comes Out: "I'm A Fortunate Homosexual Man"". Huffington Post. Cyrchwyd 2 Awst 2010.
  11. Yep, He's Gay: Ricky Martin Comes Out of the Closet | Rolling Stone Music Archifwyd 2010-12-08 yn y Peiriant Wayback.. Rollingstone.com (29 Mawrth 2010). Cyrchwyd ar 25 Chwefror 2011.
  12. "Is Ricky Martin in the Bi Closet?". The Advocate. Cyrchwyd 2018-10-14.
  13. "Ricky Martin Loved His Affairs With Women, But He's Definitely Not Bisexual". Queerty. Cyrchwyd 2018-10-14.
  14. Ricky Martin on Love. Oprah.com (2 Tachwedd 2010). Cyrchwyd ar 25 Chwefror 2011.
  15. Se casa Ricky Martin Archifwyd 2015-01-03 yn y Peiriant Wayback. on El Nuevo Día (1 Ionawr 2012)
  16. Ricky Martin thanks partner at GLAAD Awards Archifwyd 2014-01-01 yn y Peiriant Wayback. on PopEater; Mitchell, John (21 Mawrth 2011)
  17. "Ricky Martin splits from boyfriend Carlos Gonzalez Abella".
  18. "Ricky Martin: 'I've slept with women and felt wonderful things'". New York Post. Cyrchwyd 2018-10-14.
  19. "LA NUEVA VIDA DE RICKY". Spanish Vanity Fair. Cyrchwyd 2018-10-14.
  20. "Ricky Martin 'Open' to Sex With Women, But Doesn't Call Himself Bi". The Advocate. Cyrchwyd 2018-10-14.
  21. Akersten, M. (Tachwedd 11, 2010). "Let Ricky Martin Get Married!". samesame.com.au. Archifwyd o'r gwreiddiol ar Tachwedd 13, 2010. Cyrchwyd Tachwedd 14, 2010. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  22. "Ricky Martin to United Nations: 'I Lived In Fear'". Huffington Post. 12 Rhagfyr 2012.
  23. https://web.archive.org/web/20150902041630/http://www.umagmag.com/2015/08/a-conversation-with-artist-jwan-yosef/
  24. Keegan, Simon (20 Ebrill 2016). "Ricky Martin confirms he is dating handsome artist Jwan Yosef".
  25. "Ricky Martin Engaged to Jwan Yosef".
  26. "Ricky Martin & Jwan Yosef Are Married". Billboard. Cyrchwyd 2018-01-11.
  27. "Instagram". Instagram.
Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.