Melissa McCarthy

Oddi ar Wicipedia
Melissa McCarthy
GanwydMelissa Ann McCarthy Edit this on Wikidata
26 Awst 1970 Edit this on Wikidata
Plainfield, Illinois Edit this on Wikidata
Man preswylLos Angeles Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Joliet Catholic Academy
  • Prifysgol De Illinois
  • Southern Illinois University Carbondale Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor, digrifwr, sgriptiwr, cynhyrchydd ffilm, cynhyrchydd teledu, ysgrifennwr, actor teledu, actor ffilm, actor llwyfan, actor llais, dylunydd ffasiwn, cyfarwyddwr teledu Edit this on Wikidata
Taldra1.57 metr Edit this on Wikidata
PriodBen Falcone Edit this on Wikidata
PlantVivian Falcone, Georgette Falcone Edit this on Wikidata
PerthnasauJenny McCarthy, Joanne McCarthy Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Primetime Emmy i'r Prif Atores mewn Cyfres Gomedi, Primetime Emmy Award for Outstanding Guest Actress in a Comedy Series, MTV Movie Award for Best Comedic Performance, Gwobr Golden Raspberry i'r Actores Wrth Gefn Waethaf, The Razzie Redeemer Award, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, MTV Comedic Genius Award Edit this on Wikidata

Mae Melissa Ann McCarthy (ganed 26 Awst 1970)[1] yn actores, comediwraig, dylunwraig ffasiwn a chyfarwyddwraig Americanaidd.

Daeth McCarthy i amlgygwrydd wedi iddi ymddangos fel Sookie St. James yn y gyfres deledu Gilmore Girls (2000-2007), ac ers hynny mae wedi serennu fel Dena yn y comedi sefyllfa ABC Samantha Who? (2007-2009) a fel Molly Flynn yn y comedi sefyllfa CBS Mike & Molly. Ar gyfer y rôl hon, enillodd Wobr Primetime Emmy am Brif Actores Ragorol mewn Cyfres Gomedi[2], yn ogystal â dau enwebiad am wobrau eraill. Fe'i henwebwyd hefyd am Wobr Primetime Emmy am Actores Wadd Ragorol mewn Cyfres Gomedi ar gyfer ei gwaith ar Saturday Night Live.

Enillodd gydnabyddiaeth bellach am ei rôl fel Megan Price yn y ffilm gomedi 2011 Bridesmaids, a fe'i henwebwyd am Wobr yr Academi am yr Actores Gefnogol Orau, enwebiad BAFTA ac enwebiad Gwobr Screen Actors Guild am yr Actores Gefnogol Orau.[3] Yn 2013, cyd-serennodd yn The Identity Theif a The Heat, hefyd yn ymddangos yn y ffimliau The Nines, The Back-up Plan, Life as We Know It a The Hangover Part III. Yn 2014, serennodd McCarthy yn y comedi Tammy a'r ffilm gomedi-ddrama St Vincent. Yn 2015, hi oedd prif seren y ffilm acsiwn comedi Spy, ac yn 2016 bydd yn serennu yn ffilmiau Michelle Darnell a Ghostbusters.

Sefydlodd McCarthy y cwmni cynhyrchu On the Day Productions gyda'i gŵr Ben Falcone. Yn 2015, derbyniodd seren ar y Hollywood Walk of Fame, a rhyddhaodd casgliad dillad o'r enw Melissa McCarthy Seven7, ar gyfer merched sy'n gwisgo meintiau mwy. Hefyd yn 2015, fe'i henwyd fel yr actores sy'n ennill y trydydd swm mwyaf yn y byd gan Forbes.[4][5]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Monitor". Entertainment Weekly (1274). 30 Awst, 2013. t. 20. Check date values in: |date= (help)
  2. "And the 2011 Emmy Award Nominees Are". Tvfanatic.com. 2011-07-14. Cyrchwyd 2012-01-08.
  3. Oscar nominations announced for supporting actress
  4. "Jennifer Lawrence, Scarlett Johansson, Melissa McCarthy Top World's Highest Paid Actresses List". Entertainment Tonight. Cyrchwyd 20 Awst 2015.
  5. "Jennifer Lawrence tops Forbe's highest-paid actress list with Scarlett Johansson and Melissa McCarthy - Daily Mail Online". Mail Online. Cyrchwyd 20 Awst 2015.