Baner Ynysoedd y Falklands

Oddi ar Wicipedia
Baner Ynyosoedd y Falklands

Cyflwynwyd cynllun gyfredol baner Ynysoedd y Falkland ar 29 Medi 1948. Fel yn achos baneri cytrefol o diriogaethau tramor Prydain, mae ganddo Jac yr Undeb yn y canton fel arwydd o ymlyniad a pherchnogaeth i'r famwlad, ar faes glas tywyll gydag arfbais yr ynysoedd ar y maes. Yn ystod hanes banereg yr Ynysoedd, mae'r arfbais yn y maes wedi newid sawl gwaith.

Hanes[golygu | golygu cod]

Yn 1864, cyflwynodd Prydain system faner safonedig ar gyfer ei threfedigaethau. O 1865 ymlaen, rhoddwyd hawl i llywodraethau trefegigaethol chwifio eu baneri eu hunain. Roedd cynlluniau'r baneri yma yn cynnwys Jac yr Undeb ar ben uchaf y mast (y canton) a bathodyn ar ochr hedfan y faner, a oedd yn cynnwys arfbais priodol y drefedigaeth. Mae baneri'r llywodraeth sifil yn las (y Blue Ensign) a baneri masnachol yn goch (y Red Ensign).

Ni fu tan 1876 i'r Ynysoedd feddu eu baner eu hunain. Y faner hon oedd baner y 'Blue Ensign' wedi ei difrodi â sêl yr ynysoedd - delwedd o HMS Hebe (a ddaeth â nifer o'r ymsefydlwyr Prydeinig cynnar i'r ynysoedd, gan gynnwys Richard Moody, yn y 1840au) yn Falkland Sound, gyda bustach (i gynyrychioli'r gwartheg gwyllt a bu unwaith yn crwydro'r ynysoedd).[1]

Cyflwynwyd arfbais newydd i'r ynysoedd ar 16 Hydref 1925. Roedd yr arfbais y tro hwn yn cynnwys darlun o long y Desire (a gapteiniwyd gan John Davis a ddywedir iddo ddarganfod yr Ynysoedd yn 1592) a llew môr mewn tarian wedi'i amgylchynu gan arwyddair yr ynysoedd, "Desire the Right". Yn ddiweddarach daeth yr arfbais hwn i gymryd lle ddelwedd o'r bustach a'r HMS Hebe ar y faner.[2]

Ar 29 Medi 1948 newidiwyd y faner eto i gynnwys arfbais yr Ynys (maharen uwchben y 'Desire' gyda'r arwyddair oddi tano) ar ddisg gwyn. Gaharddwyd y faner yn ystod meddiant byddin yr Ariannin o'r Ynysoedd yn ystor Rhyfel y Falklands rhwng 2 Ebrill - 14 Mehefin 1982 pan ddefnyddiwyd faner yr Ariannin yn lle.

Rhwng 1865 a 1948, roedd dau faner Blue Ensign yn cael eu defnyddio a gwnaethpwyd yr arfbais ei hun yn fwy er mwyn cyrraedd maint blaenorol yr arfbais gyda'r cylch gwyn.

Cafwyd newydd arall yn 1999 pan cafwyd wared ar y cefndir cylch gwyn tu ôl i'r arfbais. Diddymwyd y cylch gwyn gan gynnwys dim ond yr arfbais.

Baneri Hanesyddol[golygu | golygu cod]

Baner Archentaidd yr Ynysoedd[golygu | golygu cod]

Baner yr Ariannin i'r Ynysoedd

Mae'r Ariannin wedi hawlio perchnogaeth dros yr Ynysoedd, a elwir yn Islas Malvinas yn Sbaeneg, ers yr 19g. Lluniwyd baner ar gyfer yr Ynysoedd yn benodol gan awdurodau yr Ariannin, er na welir hi byth yn chwifio ar dir yr Ynysoedd ei hunain.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Prothero, David (9 January 2000). "Falkland Islands - 19th Century flag". CRW Flags. Cyrchwyd 14 September 2013.
  2. Prothero, David (3 May 2005). "Falkland Islands (1937-1948)". CRW Flags. Cyrchwyd 14 September 2013.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]