Austin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B robot yn ychwanegu: kw:Austin, Teksas |
B r2.7.1) (robot yn newid: fa:آستین، تگزاس |
||
Llinell 22: | Llinell 22: | ||
[[et:Austin]] |
[[et:Austin]] |
||
[[eu:Austin]] |
[[eu:Austin]] |
||
[[fa: |
[[fa:آستین، تگزاس]] |
||
[[fi:Austin]] |
[[fi:Austin]] |
||
[[fo:Austin]] |
[[fo:Austin]] |
Fersiwn yn ôl 00:10, 24 Ionawr 2011
Austin yw prifddinas y dalaith Americanaidd, Texas, Unol Daleithiau. Dyma yw'r bedwaredd ddinas fwyaf yn Texas a'r unfed ar ddeg ddinas fwyaf yn yr Unol Daleithiau. Yn ogystal â hyn, Austin oedd y drydedd ddinas a ehangodd gyflymaf yn y wlad rhwng 2000 a 2006. Mae gan Austin boblogaeth o 743,074. Y ddinas yw canolbwynt diwylliannol ac economaidd yr ardal metropolitanaidd Austin–Round Rock gyda phoblogaeth o tua 1.6 miliwn o bobl.
Sefydlwyd yr ardal yn ystod y 1830au ar lannau'r Afon Colorado gan ymgartrefwyr gwyn, a alwodd y pentref yn Waterloo. Ym 1839, dewiswyd Waterloo fel prif ddinas Gweriniaeth Texas a oedd newydd gael ei hannibyniaeth. Ail-enwyd y ddinas yn Austin ar ôl Stephen F. Austin. Tyfodd y ddinas trwy gydol y bedwaredd ganrif ar bymtheg a daeth yn ganolfan ar gyfer y llywodraeth ac addysg wrth i Gapitol Talaith Texas a Phrifysgol Texas gael eu sefydlu yno. Wedi cyfnod o ddiffyg twf ar ôl y Dirwasgiad Mawr parhaodd Austin ei datblygiad i fod yn ddinas a oedd yn ganolbwynt technoleg a busnes.