Pen-y-bryn, Abergwyngregyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
llun gwell
SieBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn newid: en:Pen y Bryn#Garth Celyn
Llinell 31: Llinell 31:
[[Categori:Teyrnas Gwynedd]]
[[Categori:Teyrnas Gwynedd]]


[[en:Garth Celyn]]
[[en:Pen y Bryn#Garth Celyn]]

Fersiwn yn ôl 16:39, 14 Rhagfyr 2010

Pen y Bryn, Aber, safle tybiedig Garth Celyn.

Safle llys Tywysogion Gwynedd yn Abergwyngregyn oedd Garth Celyn.

Yn wreiddiol, Aberffraw ym Môn oedd prif lys brenhinllin Gwynedd, ond Garth Celyn, prif lys cantref Arllechwedd, oedd y prif lys yn ystod teyrnasiad Llywelyn Fawr, a pharhaodd yn brif lys yng nghyfnod ei olynwyr Dafydd ap Llywelyn a Llywelyn ap Gruffudd. Mewn effaith, er bod y tywysogion yn dal i fynd "ar gylch" ar adegau o'r flwyddyn i gynnal y llys brenhinol yn lleol, Garth Celyn yn Aber oedd safle llys Tywysogaeth Cymru annibynnol yn y 13eg ganrif.

Saif mewn safle strategol bwysig, lle mae'r hen ffordd o'r dwyrain dros Fwlch y Ddeufaen yn disgyn at arfordir Afon Menai a'r fferi drosodd i Llanfaes ar Ynys Môn.

Yma y bu farw Y Dywysoges Siwan, gwraig Llywelyn Fawr, a'u mab Dafydd ap Llywelyn. Yma hefyd y cafwyd Gwilym Brewys yn ystafell wely Siwan yn 1230. Ceir nifer o lythyrau a dogfennau eraill sy'n nodi ei bod wedi eu hysgrifennu yng Ngarth Celyn. Ganed Y Dywysoges Gwenllian, merch Llywelyn ap Gruffudd ac Elinor de Montfort, yn y llys ar 12 Mehefin 1282.

Ers 1988, haerwyd mai safle'r llys yw lle saif Pen y Bryn,[1] plasdy a adeiladwyd yn wreiddiol gan Rhys Thomas a'i wraig Jane, a gafodd y tiroedd hyn yn 1553. Dywedir iddynt adeiladu'r plasdy ar adfeilion y llys. Saif Pen y Bryn ar godiad tir ychydig i'r gorllewin o ganol pentref Abergwyngregyn, ar ochr arall yr afon, ar lethr wrth droed bryn coediog (SH653726).

Oriel

Cyfeiriadau