Mortlake: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
OsianLlwyd1 (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
OsianLlwyd1 (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Mae '''Mortlake''' yn rhan o [[Llundain|Lundain]], [[Lloegr]] ac yn ardal o fwrdeistref [[Bwrdeistref Llundain, Richmond upon Thames|Richmond upon Thames]]. Mae hi'n sefyll ar ochr deheuol yr [[Afon Tafwys]] rhwng [[Kew]] a [[Barnes, Llundain|Barnes]]. Roedd Mortlake yn rhan o [[Surrey]] tan 1965.
Ardal yn [[Llundain]], [[Lloegr]] yw '''Mortlake''' a leolir o fewn [[Richmond upon Thames (Bwrdeistref Llundain)|Bwrdeistref Richmond upon Thames]]. Mae hi'n sefyll ar ochr deheuol yr [[Afon Tafwys]] rhwng [[Kew]] a [[Barnes, Llundain|Barnes]]. Roedd Mortlake yn rhan o [[Surrey]] tan 1965.


==Etymoleg==
==Etymoleg==

Fersiwn yn ôl 11:00, 1 Medi 2010

Ardal yn Llundain, Lloegr yw Mortlake a leolir o fewn Bwrdeistref Richmond upon Thames. Mae hi'n sefyll ar ochr deheuol yr Afon Tafwys rhwng Kew a Barnes. Roedd Mortlake yn rhan o Surrey tan 1965.

Etymoleg

Mae cyfeirio at Mortlake yn y Llyfr Dydd y Farn 1086 fel Mortelage. Eiddo archesgop Lanfranc Caergaint oedd hi. Credir bod Mortelage yn golygu nant fechan sy'n cynnwys eogiaid ifainc, ffrwd oedd yn arwain i'r Afon Tafwys.

Hanes

O gyfnod y Llyfr Dydd y Farn, roedd hi'n eiddo bob Archesgob Caergaint tan amser Harri VIII, pan ddaeth yn eiddo'r Goron. O'r 17ed Ganrif ymlaen daeth yn enwog am ei brodwaith, ffatri a sefydlwyd ar safle hen dŷ John Dee.

Trigolyn enwocaf Mortlake oedd cynghorydd agos y frenhines Elisabeth I sef John Dee. Cafodd ei gladdu ym mynwent y dref - St Mary Magdalene lle mae hefyd bedd rhyfedd (siap pabell) yr awdur a theithiwr Sir Richard Burton, ac mae llwch y digrifwr Tommy Cooper ym Mortlake Crematorium.

Ers 1845, dechreir y ras cychod enwog y Ras Cychod Rhydychen a Chaergrawnt ym Mortlake, o University Boat Race stone islaw Chiswick Bridge. Dyma'r man cychwyn ambell i ras arall dros Championship Course.

Cysylltiad â Chymru

Roedd John Dee yn enwog fel polymath. Mathemategydd a oedd hefyd yn ymddiddori mewn dewiniaeth, a greodd iaith gyfrin i guddio ei waith rhag y byd. Casglodd lyfrgell breifat fwyaf ei gyfnod yn e dŷ ym Mortlake. O dras Cymreig, does dim sôn am iddo siarad Cymraeg, daeth yn agos iawn at teulu'r Cecils - a oedd hefyd yn hanu o Gymru.

Hawliodd Dee mai Madog ab Owain Gwynedd a ddarganfuwyd cyfandir Amerig a hynny yn 1170. Dee hefyd sy'n gyfrifol am enwi ymerodraeth Lloegr yn "British Empire" sef ar y pryd Cymru a Lloegr.

Llywodraeth Leol a Gwleidyddiaeth

Ers etholiadau lleol 2006 mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn cynrychioli ward Mortlake, ac yn rheoli cyngor Richmond. Yr AS yw Susan Kramer (Richmond Park), sydd hefyd o'r Democratiaid Rhyddfrydol. O ran cyngor Greater London (GLA) mae Mortlake wedi helpu ethol y Tori, Tony Arbour.

Cyfeiriadau

Mills, A., Oxford Dictionary of London Place Names, (2001)

J. E. Lloyd, ‘Madog ab Owain Gwynedd (supp. fl. 1170)’, rev. J. Gwynfor Jones, Oxford Dictionary of National Biography, Oxford University Press, 2004

Julian Roberts, ed (2005). "A John Dee Chronology, 1509–1609".

RENAISSANCE MAN: The Reconstructed Libraries of European Scholars: 1450–1700 Series One: The Books and Manuscripts of John Dee, 1527–1608. Adam Matthew Publications.