Encyclopædia Britannica: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn newid: arz:انسيكلوبيديا بريتانيكا |
B robot yn ychwanegu: af:Encyclopædia Britannica |
||
Llinell 10: | Llinell 10: | ||
{{Cyswllt erthygl ddethol|pt}} |
{{Cyswllt erthygl ddethol|pt}} |
||
[[af:Encyclopædia Britannica]] |
|||
[[als:Encyclopædia Britannica]] |
[[als:Encyclopædia Britannica]] |
||
[[ar:الموسوعة البريطانية]] |
[[ar:الموسوعة البريطانية]] |
Fersiwn yn ôl 10:37, 20 Awst 2010
Gwyddoniadur aml-gyfrol wedi ei ysgrifennu yn yr iaith Saesneg yw Encyclopædia Britannica. Cyhoeddwyd yr argraffiad cyntaf yng Nghaeredin yn y flwyddyn 1768, felly'n ei wneud yn wyddoniadur henaf y byd sydd yn parhau i fod mewn print. Yn bresennol, mae Britannica ar ei 15fed argraffiad, ond caiff adolygiad newydd ei gyhoeddi bob blwyddyn i gadw ei gynnwys yn weddol cyfoes. Dros y blynyddoedd, mae Britannica wedi gwneud enw ymysg y dysgiedig fel gwyddoniadur hynod o ysgolheidraidd, yn rhannol oherwydd fod adrannau o'r gwyddoniaduron wedi eu hysgrifennu gan nifer o unigolion awdurdodol, megis enwogion academaidd fel Albert Einstein, Marie Curie a Leon Trotsky. Er hynny, mae Britannica wedi bod mewn trafferth ers dyfodiad y rhyngrwyd a gwyddoniaduron rhyngweithiol, sydd wedi lleihau cyfran marchnad Britannica yn sylweddol a gorfodi y cyhoeddwyr i leihau ei brîs. Maent hefyd wedi rhyddhau nifer o fersiynau ar gyfrwng CD/DVD a gwasanaeth ar-lein i gystadlu gyda gwyddoniaduron modern fel Encarta a Wicipedia.
Cysylltiadau allanol
- (Saesneg) Encyclopædia Britannica ar-lein - Gwefan swyddogol Encyclopædia Britannica.