Gwaed: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Image |
|||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
[[File:Bleeding finger.jpg|thumb|]] |
|||
[[Delwedd:Redbloodcells.jpg|bawd|144px|[[cell goch y gwaed|Celloedd coch dynol.]]]] |
[[Delwedd:Redbloodcells.jpg|bawd|144px|[[cell goch y gwaed|Celloedd coch dynol.]]]] |
||
[[Delwedd:Bloodbags.jpg|bawd|200px|Gwaed allan o wythïen dynol, wedi'i gasglu yn ystod yr ymarfer meddygol o roi gwaed, gan ddangos ei liw coch tywyll.]] |
[[Delwedd:Bloodbags.jpg|bawd|200px|Gwaed allan o wythïen dynol, wedi'i gasglu yn ystod yr ymarfer meddygol o roi gwaed, gan ddangos ei liw coch tywyll.]] |
Fersiwn yn ôl 13:28, 1 Mai 2019
Mae gwaed yn hylif coch sy'n cylchredeg yng ngwythiennau, rhydwelïau a chalon bodau dynol a fertebratau eraill. Mae'n cynnwys yr hylif plasma, a chelloedd sy'n llifo drwyddo: celloedd coch (Erythrocytes), platennau (Thrombocytes) a chelloedd gwyn (Leukocytes).
Dyma'r brif system drafnidiaeth o fewn y corff, sy'n darparu ocsigen i holl organau a chelloedd y corff. Swydd y celloedd coch yw cludo ocsigen o amgylch y corff i roi egni i'r cyhyrau. Celloedd coch yw'r unig gelloedd yn y corff sydd ddim yn cynnwys cnewyllyn. Swydd y celloedd gwyn yw ymladd heintiau a saldra sy'n ceisio ymosod ar y corff. Mae plasma yn gyfrifol am gludo carbon deuocsid.
Mae nifer o dermau meddygol yn dechrau gyda hemo- neu hemato- yn dod o'r gair hen Roeg am waed - αἷμα (haima).
Caiff gwaed ei bwmpio trwy'r corff gan y galon. Mae rhwng pedwar a hanner i bum litr o waed yng nghorff dyn cyffredin.
Lliw
Mae lliw gwaed dynol yn dibynnu ar faint o ocsigen sydd ynddo, oherwydd bod hyn yn effeithio ar gyflwr ocsideiddio yr atomau haearn yn yr hemoglobin – ac mae hyn yn dibynnu ar le'r gwaed yn y system gylchredol. Yn y rhydwelïau a'r capilarïau, mae lefelau'r ocsigen yn uchel ac mae'r gwaed yn goch llachar. Yn y gwythiennau, mae'r gwaed yn cynnwys llai o ocsigen, ac mae ei liw yn goch tywyll.