Mynachlog Santes Catrin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) Crewyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'bawd|240px|Mynachlog Sant Catrin Mynachlog ar orynys Sinai yn yr Aifft yw '''Mynachlog Sant Catrin''' ([[Groe...' |
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 8: | Llinell 8: | ||
[[Categori:Safleoedd |
[[Categori:Safleoedd Treftadaeth y Byd yn yr Aifft]] |
||
[[Categori:Mynachlogydd]] |
[[Categori:Mynachlogydd]] |
||
Fersiwn yn ôl 16:42, 10 Mehefin 2010
Mynachlog ar orynys Sinai yn yr Aifft yw Mynachlog Sant Catrin (Groeg: Μονὴ τῆς Ἁγίας Αἰκατερίνης). Saif ger llethrau isaf Mynydd Sinai. Dymodwyd y fynachlog, sy'n perthyn i Eglwys Uniongred Groeg, yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO. Ystyrir mai Mynachlog Sant Catrin yw'r fynachlog Gristnogol hynaf yn y byd.
Ceir co0fnod am fynachod yma gan bererin o'r enw Egeria tua 381-384. Adeiladwyd y fynachlog gan yr ymerawdwr Justinian I (teyrnasodd 527-565), o amgylch Capel y Berth yn Llosgi. Roedd y capel hwn wedi ei adeiladu gan Helena,mam yr ymerawdwr Cystennin I, ar y safle lle dywedir i Moses weld y berth yn llosgi. Cafodd y fynachlog ei henw oddi wrth Sant Catrin o Alexandria. Wedi iddi gaeth ei merthyru, roedd traddodiad i angylion gario ei chorff i'r safle yma.
Ceir casgliad ail-fwyaf y byd o lawysgrifau cynnar yma, a nifer fawr o weithiau celf, yn cynnwys casgliad gorau'r byd o eiconau cynnar.