Nant Ffrancon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B →Ffyrdd: canrifoedd a Delweddau, replaced: 18fed ganrif → 18g using AWB |
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau) →Cyfeiriadau: Manion cyffredinol / cyfieithu gan fwyaf using AWB |
||
Llinell 9: | Llinell 9: | ||
==Cyfeiriadau== |
==Cyfeiriadau== |
||
{{cyfeiriadau}} |
|||
<references/> |
|||
[[Categori:Bethesda]] |
[[Categori:Bethesda]] |
Fersiwn yn ôl 06:40, 3 Ebrill 2019
Dyffryn yn Eryri yw Nant Ffrancon, sy'n ymestyn tua'r gogledd o Lyn Ogwen a Chwm Idwal hyd at gyffiniau pentref Bethesda. Credir bod "Ffrancon" yn hen enw ar filwr hur (Ffranc), ond nid yw pawb yn cytuno â'r esboniad.
Daearyddiaeth
Mae Nant Ffrancon o ddiddordeb daearegol mawr, gan ei bod yn enghraifft glasurol o ddyffryn a grewyd gan rewlif, ac yn dangos siâp "U" nodweddiadol y dyffrynnoedd hynny, gydag ochrau serth a gwaelod gwastad. Ar ochr ddwyreiniol y dyffryn mae llethrau Pen yr Ole Wen a Carnedd Dafydd yn y Carneddau, tra ar yr ochr orllewinol mae llethrau rhai o gopaon y Glyderau megis Y Garn, Foel Goch a Mynydd Perfedd. Mae llawer o'r meini yn y dyffryn yn dangos tystiolaeth eu bod wedi eu symud gan y rhewlif yn ystod Oes yr Iâ. Er bod Afon Ogwen yn llifo ar hyd y dyffryn, nid yr afon a greodd y dyffryn yma.
Ffyrdd
Mae priffordd yr A5 hefyd yn dilyn y dyffryn gan esgyn i Fwlch Nant Ffrancon ger Llyn Ogwen. Oddi yno â yn ei blaen i Gapel Curig. Ceir ffordd gynharach sy'n dilyn ochr orllewinol y Nant. Cafodd yr hen ffordd ar hyd llwybr presennol yr A5 ei ail-wneud yn llwyr gan Thomas Telford rhwng 1810 a 1826. Adeiladwyd yr hen lôn gan yr Arglwydd Penrhyn ar ddiwedd y 18g, yn bennaf er mwyn dod â llechi i lawr o'r mynydd i Borth Penrhyn, ger Bangor. Cyn hynny cafodd yr hen lwybr ei ddisgrifio gan yr hynafiaethydd Thomas Pennant fel "y llwybr mul gwaethaf yng Nghymru"![1]
Cyfeiriadau
- ↑ Alun Llywelyn-Williams, Crwydro Arfon (Cyfres Crwydro Cymru, 1959), t. 115-16.