Crwth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
llun arall |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 2: | Llinell 2: | ||
[[Delwedd:Crwth-in-case.jpg|200px|bawd|Copi modern o grwth Cymreig o'r 18fed ganrif.]] |
[[Delwedd:Crwth-in-case.jpg|200px|bawd|Copi modern o grwth Cymreig o'r 18fed ganrif.]] |
||
[[Delwedd:David Teniers d. J. 003.jpg|200px|bawd|Cerddor (mewn coch) yn chwarae'r crwth, 17eg ganrif.]] |
[[Delwedd:David Teniers d. J. 003.jpg|200px|bawd|Cerddor (mewn coch) yn chwarae'r crwth, 17eg ganrif.]] |
||
Hen [[offeryn cerdd]] llinyddol ([[Lladin Llafar]]: ''chrotha'', [[Saesneg]]: ''crowd''), nid annhebyg i'r [[fiolin]], a chanddo chwe [[Cerdd Dant|thant]] (tri yn yn y fersiynau cynnar), a genir â [[bwa]]. Mae ganddo ffrâm lled hirsgwar â'r rhan isaf wedi'i llenwi i mewn i greu blwch sain, a'r rhan uchaf gyda thyllau o boptu i'r tannau; byddai'r |
Hen [[offeryn cerdd]] llinyddol ([[Lladin Llafar]]: ''chrotha'', [[Saesneg]]: ''crowd''), nid annhebyg i'r [[fiolin]], a chanddo chwe [[Cerdd Dant|thant]] (tri yn yn y fersiynau cynnar), a genir â [[bwa]]. Mae ganddo ffrâm lled hirsgwar â'r rhan isaf wedi'i llenwi i mewn i greu blwch sain, a'r rhan uchaf gyda thyllau o boptu i'r tannau; byddai'r crythor yn rhoi bysedd ei law chwith trwy'r tyllau hyn er mwyn dal y tannau ac yn symud y bwa â'i law dde. |
||
Er iddo ymledu i sawl gwlad yng ngogledd-orllewin [[Ewrop]] roedd y crwth yn offeryn nodweddiadol [[Celtiaid|Geltaidd]] a ddyfeiswyd, efallai, yn y teyrnasoedd [[Brython|Brythonaidd]] cynnar. |
Er iddo ymledu i sawl gwlad yng ngogledd-orllewin [[Ewrop]] roedd y crwth yn offeryn nodweddiadol [[Celtiaid|Geltaidd]] a ddyfeiswyd, efallai, yn y teyrnasoedd [[Brython|Brythonaidd]] cynnar. |
Fersiwn yn ôl 20:02, 31 Mawrth 2010
Hen offeryn cerdd llinyddol (Lladin Llafar: chrotha, Saesneg: crowd), nid annhebyg i'r fiolin, a chanddo chwe thant (tri yn yn y fersiynau cynnar), a genir â bwa. Mae ganddo ffrâm lled hirsgwar â'r rhan isaf wedi'i llenwi i mewn i greu blwch sain, a'r rhan uchaf gyda thyllau o boptu i'r tannau; byddai'r crythor yn rhoi bysedd ei law chwith trwy'r tyllau hyn er mwyn dal y tannau ac yn symud y bwa â'i law dde.
Er iddo ymledu i sawl gwlad yng ngogledd-orllewin Ewrop roedd y crwth yn offeryn nodweddiadol Geltaidd a ddyfeiswyd, efallai, yn y teyrnasoedd Brythonaidd cynnar.
Y Crwth yng Nghymru
Roedd yn offeryn cyffredin iawn yng Nghymru'r Oesoedd Canol. Cyfeirir ato yn y Cyfreithiau Cymreig: pop penkert... e brenyn byeu keysyau ofer y dau nyd amken atelyn yhun a chrud y arall (Y Llyfr Du o'r Waun, c. 1200). Ymddengys fod beirdd yr uchelwyr yn edrych i lawr eu trwynau ar y crythor. Prin yw'r cyfeiriadau at yr offeryn ganddynt. Weithiau, fel yn achos y pibau a'u sain aflafar, mae'n destun dirmyg, e.e. mewn cerdd gan Lewys Glyn Cothi (fl. 1420-1489):
- Pob ddau y glêr a ddeuyn',
- pob dri fry i dŷ pob dyn;
- wrth y drws un â'i grwth drwg,
- a baw arall â'i berrwg.[1]
Ac eto mae'n amlwg fod iddo le digon anrhydeddus dan yr hen drefn er ei fod yn is ei safle na'r delyn. Roedd yn boblogaidd iawn ym Môn yn yr 16eg ganrif a'r 17eg ganrif, fel y tystia marwnad Huw Pennant (fl. 1565-1619) i'r crythor Siôn Alaw:
- Y crwth hwn, croyw a thyner
- Y gwnâi ei was pynciau pêr
- Ac weithian mewn cwynfan cawdd
- Y felysgerdd a floesgawdd.[2]
Roedd y crwth yn dal i gael ei chwarae mewn rhannau o Gymru hyd at y 19eg ganrif.
Ceir sawl chwedl werin am 'Crythor Du' ac enwir dwy gainc ar ei ôl, sef 'Erddigan y Crythor Du' a 'Chainc y Crythor Du Bach'.
Cyfeiriadau
Ffynonellau
- Dafydd Johnston (gol.), Gwaith Lewys Glyn Cothi (Caerdydd, 1995). ISBN 0708312535
- Percy A. Scholes, The Concise Oxford Dictionary of Music (Rhydychen, 1964).
- Dafydd Wyn Wiliam, Traddodiad Cerdd Dant ym Môn (Dinbych, 1989).