Crwth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Ffynonellau: cywirio enw'r categori - Cymreig nid Cymraeg!
ehangu ychydig; llun
Llinell 1: Llinell 1:
[[Delwedd:David Teniers d. J. 003.jpg|200px|bawd|Cerddor (mewn coch) yn chwarae'r crwth, 17eg ganrif]]
[[Delwedd:Britannica Crowd 9th Century Crwth.png|200px|bawd|Crythor yn chwarae'r crwth. ''Beibl'' [[Siarl Foel]], 9fed ganrif.]]
[[Delwedd:David Teniers d. J. 003.jpg|200px|bawd|Cerddor (mewn coch) yn chwarae'r crwth, 17eg ganrif.]]
Hen [[offeryn cerdd]] llinyddol ([[Lladin Isel]] ''chrotha'', [[Saesneg]] ''crowd''), nid annhebyg i'r [[fiolin]], a chanddo chwe [[Cerdd Dant|thant]] (tri yn yn y fersiynau cynnar), a genir â [[bwa]]. Mae ganddo ffrâm lled hirsgwar â'r rhan isaf wedi'i llenwi i mewn i greu blwch sain, a'r rhan uchaf gyda thyllau o boptu i'r tannau; byddai'r [[crythor]] yn rhoi bysedd ei law chwith trwy'r tyllau hyn er mwyn dal y tannau ac yn symud y bwa â'i law dde. Er iddo ymledu i sawl gwlad yng ngogledd-orllewin [[Ewrop]] roedd y crwth yn offeryn nodweddiadol [[Celtiaid|Geltaidd]] a ddyfeiswyd, efallai, yn y teyrnasoedd [[Brython|Brythonaidd]] cynnar.
Hen [[offeryn cerdd]] llinyddol ([[Lladin Isel]] ''chrotha'', [[Saesneg]] ''crowd''), nid annhebyg i'r [[fiolin]], a chanddo chwe [[Cerdd Dant|thant]] (tri yn yn y fersiynau cynnar), a genir â [[bwa]]. Mae ganddo ffrâm lled hirsgwar â'r rhan isaf wedi'i llenwi i mewn i greu blwch sain, a'r rhan uchaf gyda thyllau o boptu i'r tannau; byddai'r [[crythor]] yn rhoi bysedd ei law chwith trwy'r tyllau hyn er mwyn dal y tannau ac yn symud y bwa â'i law dde.

Er iddo ymledu i sawl gwlad yng ngogledd-orllewin [[Ewrop]] roedd y crwth yn offeryn nodweddiadol [[Celtiaid|Geltaidd]] a ddyfeiswyd, efallai, yn y teyrnasoedd [[Brython|Brythonaidd]] cynnar.


== Y Crwth yng Nghymru ==
== Y Crwth yng Nghymru ==
Roedd yn offeryn cyffredin iawn yng [[Cymru|Nghymru]]'r [[Oesoedd Canol]]. Cyfeirir ato yn y [[Cyfraith Hywel Dda|Cyfreithiau Cymreig]]: ''pop penkert... e brenyn byeu keysyau ofer y dau nyd amken atelyn yhun a chrud y arall'' (''[[Y Llyfr Du o'r Waun]]'', c. [[1200]]). Ymddengys fod [[Beirdd yr Uchelwyr|beirdd yr uchelwyr]] yn edrych i lawr eu trwynau ar y crythor. Prin yw'r cyfeiriadau at yr offeryn ganddynt. Weithiau, fel yn achos y [[Pibau Cymreig|pibau]] a'u sain aflafar, mae'n destun dirmyg, e.e. mewn cerdd gan [[Lewys Glyn Cothi]] (fl. [[1420]]-[[1489]]):


:Pob ddau y glêr a ddeuyn',
Roedd yn offeryn cyffredin iawn yng [[Cymru|Nghymru]]'r [[Oesoedd Canol]]. Cyfeirir ato yn y [[Cyfraith Hywel Dda|Cyfreithiau Cymreig]]: ''pop penkert... e brenyn byeu keysyau ofer y dau nyd amken atelyn yhun a chrud y arall'' (''[[Y Llyfr Du o'r Waun]]'', c. [[1200]]). Ymddengys fod [[Beirdd yr Uchelwyr|beirdd yr uchelwyr]] yn edrych i lawr eu trwynau ar y crythor. Prin yw'r cyfeiriadau at yr offeryn ganddynt. Weithiau, fel yn achos y [[Pibau Cymreig|pibau]] a'u sain aflafar, mae'n destun dirmyg, e.e. mewn cerdd gan [[Lewys Glyn Cothi]] (fl. [[1420]]-[[1489]]): ''Pob ddau y glêr a ddeuyn', / pob dri fry i dŷ pob dyn; / wrth y drws un â'i grwth drwg, / a baw arall â'i berrwg'' (''Gwaith Lewys Glyn Cothi'', 63.25-8). Ac eto mae'n amlwg fod iddo le digon anrhydeddus dan yr hen drefn er ei fod yn is ei safle na'r [[telyn|delyn]]. Roedd yn boblogaidd iawn ym [[Môn]] yn yr [[16eg ganrif]] a'r [[17eg ganrif]], fel y tystia marwnad [[Huw Pennant]] (fl. [[1565]]-[[1619]]) i'r crythor [[Siôn Alaw]]: ''Y crwth hwn, croyw a thyner / Y gwnâi ei was pynciau pêr / Ac weithian mewn cwynfan cawdd / Y felysgerdd a floesgawdd''. Roedd y crwth yn dal i gael ei chwarae mewn rhannau o Gymru hyd at y [[19eg ganrif]].
:pob dri fry i dŷ pob dyn;
:wrth y drws un â'i grwth drwg,
:a baw arall â'i berrwg.<ref>''Gwaith Lewys Glyn Cothi'', 63.25-8.</ref>


Ac eto mae'n amlwg fod iddo le digon anrhydeddus dan yr hen drefn er ei fod yn is ei safle na'r [[telyn|delyn]]. Roedd yn boblogaidd iawn ym [[Môn]] yn yr [[16eg ganrif]] a'r [[17eg ganrif]], fel y tystia marwnad [[Huw Pennant]] (fl. [[1565]]-[[1619]]) i'r crythor [[Siôn Alaw]]: ''Y crwth hwn, croyw a thyner / Y gwnâi ei was pynciau pêr / Ac weithian mewn cwynfan cawdd / Y felysgerdd a floesgawdd''. Roedd y crwth yn dal i gael ei chwarae mewn rhannau o Gymru hyd at y [[19eg ganrif]].
== Ffynonellau ==


Ceir sawl chwedl werin am '[[Crythor Du|Crythor Du]]' ac enwir dwy gainc ar ei ôl, sef 'Erddigan y Crythor Du' a 'Chainc y Crythor Du Bach'.

==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}

== Ffynonellau ==
* Dafydd Johnston (gol.), ''Gwaith Lewys Glyn Cothi'' (Caerdydd, 1995). ISBN 0708312535
* Dafydd Johnston (gol.), ''Gwaith Lewys Glyn Cothi'' (Caerdydd, 1995). ISBN 0708312535
* Percy A. Scholes, ''The Concise Oxford Dictionary of Music'' (Rhydychen, 1964).
* Percy A. Scholes, ''The Concise Oxford Dictionary of Music'' (Rhydychen, 1964).

Fersiwn yn ôl 19:57, 31 Mawrth 2010

Crythor yn chwarae'r crwth. Beibl Siarl Foel, 9fed ganrif.
Cerddor (mewn coch) yn chwarae'r crwth, 17eg ganrif.

Hen offeryn cerdd llinyddol (Lladin Isel chrotha, Saesneg crowd), nid annhebyg i'r fiolin, a chanddo chwe thant (tri yn yn y fersiynau cynnar), a genir â bwa. Mae ganddo ffrâm lled hirsgwar â'r rhan isaf wedi'i llenwi i mewn i greu blwch sain, a'r rhan uchaf gyda thyllau o boptu i'r tannau; byddai'r crythor yn rhoi bysedd ei law chwith trwy'r tyllau hyn er mwyn dal y tannau ac yn symud y bwa â'i law dde.

Er iddo ymledu i sawl gwlad yng ngogledd-orllewin Ewrop roedd y crwth yn offeryn nodweddiadol Geltaidd a ddyfeiswyd, efallai, yn y teyrnasoedd Brythonaidd cynnar.

Y Crwth yng Nghymru

Roedd yn offeryn cyffredin iawn yng Nghymru'r Oesoedd Canol. Cyfeirir ato yn y Cyfreithiau Cymreig: pop penkert... e brenyn byeu keysyau ofer y dau nyd amken atelyn yhun a chrud y arall (Y Llyfr Du o'r Waun, c. 1200). Ymddengys fod beirdd yr uchelwyr yn edrych i lawr eu trwynau ar y crythor. Prin yw'r cyfeiriadau at yr offeryn ganddynt. Weithiau, fel yn achos y pibau a'u sain aflafar, mae'n destun dirmyg, e.e. mewn cerdd gan Lewys Glyn Cothi (fl. 1420-1489):

Pob ddau y glêr a ddeuyn',
pob dri fry i dŷ pob dyn;
wrth y drws un â'i grwth drwg,
a baw arall â'i berrwg.[1]

Ac eto mae'n amlwg fod iddo le digon anrhydeddus dan yr hen drefn er ei fod yn is ei safle na'r delyn. Roedd yn boblogaidd iawn ym Môn yn yr 16eg ganrif a'r 17eg ganrif, fel y tystia marwnad Huw Pennant (fl. 1565-1619) i'r crythor Siôn Alaw: Y crwth hwn, croyw a thyner / Y gwnâi ei was pynciau pêr / Ac weithian mewn cwynfan cawdd / Y felysgerdd a floesgawdd. Roedd y crwth yn dal i gael ei chwarae mewn rhannau o Gymru hyd at y 19eg ganrif.

Ceir sawl chwedl werin am 'Crythor Du' ac enwir dwy gainc ar ei ôl, sef 'Erddigan y Crythor Du' a 'Chainc y Crythor Du Bach'.

Cyfeiriadau

  1. Gwaith Lewys Glyn Cothi, 63.25-8.

Ffynonellau

  • Dafydd Johnston (gol.), Gwaith Lewys Glyn Cothi (Caerdydd, 1995). ISBN 0708312535
  • Percy A. Scholes, The Concise Oxford Dictionary of Music (Rhydychen, 1964).
  • Dafydd Wyn Wiliam, Traddodiad Cerdd Dant ym Môn (Dinbych, 1989).