Brwydr Ronsyfal: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
VolkovBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: pt:Batalha de Roncesvales
Dinamik-bot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn newid: an:Batalla de Roncesvals
Llinell 22: Llinell 22:
[[Categori:778]]
[[Categori:778]]


[[an:Batalla de Ronzesbals]]
[[an:Batalla de Roncesvals]]
[[ca:Batalla de Roncesvalls]]
[[ca:Batalla de Roncesvalls]]
[[de:Schlacht von Roncesvalles]]
[[de:Schlacht von Roncesvalles]]

Fersiwn yn ôl 12:15, 4 Mawrth 2010

Marwolaeth Rolant gan Jean Fouquet (c. 1455–1460).

Ymladdwyd Brwydr Ronsyfal (Ffrangeg: Roncevaux, Sbaeneg: Roncesvalles) ym Mwlch Ronsyfal, ar y ffîn rhwng Sbaen a Ffrainc, ar 15 Awst 778, rhwng rhan ôl byddin Siarlymaen, dan Rolant, arglwydd Mers Llydaw, a llu y Basgiaid.

Yng ngwanwyn 778, roedd Siarlymaen wedi bod yn ymgyrchu yn Sbaen. Wrth ddychwelyd i Ffrainc, ymosodwyd ar ran ôl y fyddin gan y Basgiaid. Gorchfygwyd y Ffranciaid, a lladdwyd Rolant yn yr ymladd. Anfarwolwyd y digwyddiad yn y Chanson de Roland, ond newidiwyd yr hanes; yn y Chanson, bellach y Mwslimiaid yw'r gelyn.

Anfarwolwyd y lle gan Iorwerth C. Peate (ganwyd 1901) yn ei gerdd Ronsyfál sy'n cynnwys y cwpledi enwog:

Ni ddaw o'r niwl un milwr tal,
o'r hen oes fud, i Ronsyfál.

a:

ac aros nes i'r gwyll fy nal,
a'r nos a fu yn Ronsyfál.