Iestyn Tyne: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dafyddt (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Dafyddt (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 30: | Llinell 30: | ||
[[Categori:Beirdd Cymreig yn yr iaith Gymraeg]] |
[[Categori:Beirdd Cymreig yn yr iaith Gymraeg]] |
||
[[Categori:Llenorion Cymreig yr 21ain ganrif]] |
[[Categori:Llenorion Cymreig yr 21ain ganrif]] |
||
[[Categori:Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth]] |
Fersiwn yn ôl 20:12, 19 Ionawr 2019
Bardd, llenor, a cherddor yw Iestyn Tyne (ganwyd 3 Gorffennaf 1997). Ef yw un o sylfaenwyr a golygyddion cylchgrawn llenyddol Y Stamp, ac mae'n aelod o'r bandiau gwerin Patrobas a Pendevig. Mae'n byw yn Twthill, Caernarfon.
Bywyd cynnar ac addysg
Mae Iestyn yn fab ffarm o Foduan ym Mhen Llŷn. Saesneg oedd iaith ei aelwyd adref, ond dysgodd siarad Cymraeg yn gyflym iawn yn yr ysgol. Mynychodd Ysgol Gynradd Pentreuchaf, Ysgol Uwchradd Botwnnog. Aeth ymlaen i wneud ei lefelau A yng Nholeg Meirion Dwyfor, Pwllheli gan astudio amrywiwaeth o'r creadigol a'r ymarferfol - Cymraeg, Celf, Daearyddiaeth a Busnes. Yn ystod ei amser yn y coleg, bu'n chwarae mewn band 'Y Chwedlau' a ddaeth i'w adnabod wedyn fel Patrobas, sydd wedi ryddhau EP ac wedi teithio i berfformio yn Iwerddon, Llydaw a Gwlad y Bas. Ar yr un pryd roedd grŵp gwerin Ciaridyms gyda Gwilym Bowen Rhys a Gethin Griffiths.
Wedi hynny aeth i astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth a graddiodd yn y Gymraeg yn 2018. Roedd am gyfnod yn aelod o'r ddeuawd, Gwawn, yn perfformio cerddoriaeth acwstig yn ardal Aberystwyth. Mae hefyd yn aelod o'r siwpyr-grŵp gwerin arbrofol, Pendevig.[1]
Gyrfa
Mae'n gweithio fel cyfieithydd i Gyngor Sir Conwy yn rhan amser.
Barddoni
Yn 2016, enillodd goron Eisteddfod yr Urdd.[2] Hunan-gyhoeddodd ei gyfrol gyntaf o gerddi, Addunedau, yn 2017;[3] a chyhoeddodd ei ail gyfrol, Ar adain, drwy Gyhoeddiadau'r Stamp yn 2018.[4]
Y mae hefyd yn gyfrifol am y blog Casglu'r Cadeiriau sy'n olrhain cadeiriau eisteddfodol sydd naill ai ar goll neu wedi mynd yn angof.
Llyfryddiaeth
- Addunedau (2017)
- Ar adain (2018)
Dolenni allanol
Cyfeiriadau
- ↑ Iestyn Tyne (Cyfweliad). Blog Stafell Gerdd (1 Hydref 2018).
- ↑ https://www.walesonline.co.uk/news/wales-news/student-iestyn-tyne-takes-years-11425285
- ↑ https://golwg360.cymru/newyddion/cymru/258696-fideo-bardd-ifanc-yn-cyhoeddi-ar-ei-liwt-ei-hun
- ↑ https://www.llenyddiaethcymru.org/lw-event/lansiad-ar-adain-iestyn-tyne/