Edward Tegla Davies: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 3: | Llinell 3: | ||
== Bywyd == |
== Bywyd == |
||
Magwyd Tegla yn ei bentref genedigol |
Magwyd Tegla yn ei bentref genedigol ac yno y cafodd ei addysg gynnar. Cafodd cymdeithas Gymraeg glos a natur ddeniadol ei gynefin effaith amlwg ar ei waith llenyddol a'i agwedd at fywyd yn gyffredinol. Aeth i [[Goleg Didsbury|Coleg Didsbury]], [[Manceinion]] ar ôl cyfnod o 4 mlynedd yn ddisgybl-athro a 3 fel athro cynorthwyol yn Ysgol [[Bwlch Gwyn]], ei hen ysgol, a gwasanaethodd fel gweinidog [[Y Wesleiaid|Wesleaidd]] am weddill ei oes. Crwydrodd o gylchdaith i gylchdaith yn ystod ei weinidogaeth, fel oedd arferol i weinidogion Wesleiaidd, ac roedd yn [[Pregethwyr|bregethwr]] dylanwadol. Roedd yn ysgrifennydd cyson i'r [[Y Wasg Gymraeg|wasg Gymraeg]] ac yn olygydd ar [[Y Winllan]] ([[1920]]-[[1928]]), cylchgrawn y Wesleiadd, ac [[Yr Efrydydd]] ([[1931]]-[[1935]]). Golygodd ''[[Cyfres Pobun|Gyfres Pobun]]'' am gyfnod yn ogystal. Roedd yn adnabod nifer o lenorion eraill yng Nghymru ac yn gyfaill agos i [[Thomas Gwynn Jones|T. Gwynn Jones]] ac [[Ifor Williams]]. |
||
== Gwaith Llenyddol == |
== Gwaith Llenyddol == |
||
Ysgrifenodd ar gyfer [[Llenorion Plant Cymru|plant]] ac oedolion fel ei gilydd ac mae ei waith yn cynnwys [[ |
Ysgrifenodd ar gyfer [[Llenorion Plant Cymru|plant]] ac oedolion fel ei gilydd ac mae ei waith yn cynnwys [[Y Nofel Gymraeg|nofelau]], sawl cyfrol o [[Y Stori Fer Gymraeg|straeon byr]], [[Yr Ysgrif Gymraeg|ysgrifau]] a [[hunangofiant]]. Mae ei arddull yn rhwydd ac agos-atoch ac mae ei gydymdeimlad cynhenid â phlant a [[byd natur]] yn elfen amlwg yn ei waith. |
||
===Llyfrau i blant yn bennaf=== |
===Llyfrau i blant yn bennaf=== |
||
Llinell 20: | Llinell 20: | ||
*''[[Gŵr Pen y Bryn]]'' (Wrecsam, 1923). Nofel. |
*''[[Gŵr Pen y Bryn]]'' (Wrecsam, 1923). Nofel. |
||
*''[[Y Llwybr Arian]]'' (Wrecsam, 1934). Straeon. |
*''[[Y Llwybr Arian]]'' (Wrecsam, 1934). Straeon. |
||
*''[[Gyda'r Glannau]]'' (Llandybïe, 1941). Nofel fer. |
|||
*''[[Rhyfedd o Fyd]]'' (1950). Ysgrifau. |
*''[[Rhyfedd o Fyd]]'' (1950). Ysgrifau. |
||
*''[[Y Foel Faen]]'' (1951). Ysgrifau. |
*''[[Y Foel Faen]]'' (1951). Ysgrifau. |
Fersiwn yn ôl 20:49, 31 Awst 2006
Llenor, ganwyd yn Llandegla-yn-Iâl yn yr hen Sir Ddinbych, yn fab i chwarelwr (1880-1967). Fel Tegla roedd yn cael ei adnabod gan bawb.
Bywyd
Magwyd Tegla yn ei bentref genedigol ac yno y cafodd ei addysg gynnar. Cafodd cymdeithas Gymraeg glos a natur ddeniadol ei gynefin effaith amlwg ar ei waith llenyddol a'i agwedd at fywyd yn gyffredinol. Aeth i Coleg Didsbury, Manceinion ar ôl cyfnod o 4 mlynedd yn ddisgybl-athro a 3 fel athro cynorthwyol yn Ysgol Bwlch Gwyn, ei hen ysgol, a gwasanaethodd fel gweinidog Wesleaidd am weddill ei oes. Crwydrodd o gylchdaith i gylchdaith yn ystod ei weinidogaeth, fel oedd arferol i weinidogion Wesleiaidd, ac roedd yn bregethwr dylanwadol. Roedd yn ysgrifennydd cyson i'r wasg Gymraeg ac yn olygydd ar Y Winllan (1920-1928), cylchgrawn y Wesleiadd, ac Yr Efrydydd (1931-1935). Golygodd Gyfres Pobun am gyfnod yn ogystal. Roedd yn adnabod nifer o lenorion eraill yng Nghymru ac yn gyfaill agos i T. Gwynn Jones ac Ifor Williams.
Gwaith Llenyddol
Ysgrifenodd ar gyfer plant ac oedolion fel ei gilydd ac mae ei waith yn cynnwys nofelau, sawl cyfrol o straeon byr, ysgrifau a hunangofiant. Mae ei arddull yn rhwydd ac agos-atoch ac mae ei gydymdeimlad cynhenid â phlant a byd natur yn elfen amlwg yn ei waith.
Llyfrau i blant yn bennaf
- Hunangofiant Tomi (Bangor, 1912)
- Tir Y Dyneddon (Caerdydd a Wrecsam, 1921)
- Nedw (Wrecsam, 1922)
- Rhys Llwyd Y Lleuad (Wrecsam, 1925)
- Hen Ffrindiau (Wrecsam, 1927)
- Y Doctor Bach (Wrecsam, 1930)
- Stori Sam (1938)
Llyfrau eraill
- Gŵr Pen y Bryn (Wrecsam, 1923). Nofel.
- Y Llwybr Arian (Wrecsam, 1934). Straeon.
- Gyda'r Glannau (Llandybïe, 1941). Nofel fer.
- Rhyfedd o Fyd (1950). Ysgrifau.
- Y Foel Faen (1951). Ysgrifau.
- Gyda'r Blynyddoedd (1951). Hunangofiant.
- Ar Ddisberod (1954). Ysgrifau.
- Yr Hen Gwpan Cymun (1961). Pregethau.
Llyfryddiaeth
- Pennar Davies, Edward Tegla Davies, yn y gyfres Writers of Wales (1983)
- Islwyn Ffowc Ellis, Dirgelwch Tegla (1977)
- Islwyn Ffowc Ellis (gol.), Edward Tegla Davies, Llenor a Phroffwyd (1956)
- Huw Ethall, Cofiant Tegla (1980)
- Mairwen a Gwynn Jones (gol.), Dewiniaid Difyr (Llandysul, 1983). Ysgrif ar Degla gan Dyddgu Owen, tt.97-103. ISBN 0850887372