Ieithoedd Goedelaidd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
terminoleg: -ig/-eg |
B wedi symud Goideleg i Ieithoedd Goidelig: Erthygl am yr ieithoedd yw hon, nid yr iaith gysefin hynafol (sydd wedi diflannu) |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 19:08, 24 Medi 2009
Mae 'r ieithoedd Goidelig, a elwir weithiau yr ieithoedd Gaeleg, yn grŵp o ieithoedd sy'n cynnwys Gwyddeleg (Gaeilge), Gaeleg yr Alban (Gàidhlig) a Manaweg (Gaelg). Rhennir yr ieithoedd Celtig sy'n cael eu siarad heddiw yn ieithoedd Goidelig ac ieithoedd Brythonig, sy'n cynnwys Cymraeg, Cernyweg a Llydaweg.
Cyfeirir at yr iaith gysefin y datblygodd yr ieithoedd Goidelig ohoni hefyd fel Celteg Q neu Goideleg tra gelwir yr iaith gysefin y tyfodd yr ieithoedd Brythonig ohoni yn Gelteg P (Brythoneg: iaith y Brydain Geltaidd ac eithrio gogledd yr Alban). Cadwodd yr ieithoedd Q y sain Proto-Gelteg *kw, a daeth yn [k]) yn ddiweddarach. Yn yr ieithoedd Brythonig trôdd y sain *kw yn [p]. Ymhlith hen ieithoedd Celtaidd y cyfandir, ceir y [p] mewn Galeg tra'r oedd Celtibereg yn cadw'r *kw.
Proto-Gelteg | Galeg | Cymraeg | Llydaweg | Gwyddeleg | Gaeleg yr Alban | Manaweg |
*kwennos | pennos | pen | penn | ceann | ceann | kione |
*kwetwar- | petuarios | pedwar | pevar | ceathair | ceithir | kiare |
*kwenkwe | pinpetos | pump | pemp | cúig | còig | queig |
*kweis | pis | pwy | piv | cé (older cia) | cò/cia | quoi |
Credir fod yr ieithoedd Goidelig wedi datblygu fel a ganlyn:
- Goideleg
- Gwyddeleg Cynnar,
- Hen Wyddeleg, wedi datblygu yn:
- Gwyddeleg Canol, wedi datblygu yn:
Hyd y gwyddir, dim ond yn Iwerddon yr oedd ieithoedd Goideleg yn cael ei siarad hyd nes i'r Scoti ymfudo o Iwerddon i orllewin yr Alban rywbyd rhwng y 3edd ganrif a'r 6ed ganrif.
v · t · e Ieithoedd Celtaidd/Celteg | ||||||||||||||||||||||||||
|
||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Gwelwch hefyd: Ieithyddiaeth · Y Celtiaid · Gwledydd Celtaidd |