Gangani: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
cat |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 10: | Llinell 10: | ||
[[Categori:Llŷn]] |
[[Categori:Llŷn]] |
||
[[br:Gangani]] |
|||
[[fr:Gangani]] |
[[fr:Gangani]] |
Fersiwn yn ôl 09:16, 5 Mehefin 2009
Roedd y Gangani yn llwyth Celtaidd oedd a'u tiriogaeth ar benthyn Llŷn. Ychydig iawn a wyddir amdanynt, ac mae'n bosibl eu bod yn is-lwyth o'r Ordoficiaid. Crybwyllir y llwyth gan y daearyddwr Groegaidd Ptolemy, sy'n rhoi enw penrhyn Llŷn fel Ganganorum Promontorium (Penrhyn y Gangani). Mae Ptolemy'n cyfeirio at lwyth o'r un enw yng ngogledd-orllewin Iwerddon yn ogystal. Mae'r cysylltiad Gwyddelig yn awgrymiadol gan fod y rhan hon o Gymru'n mwynhau perthynas agos gyda'r Gwyddelod yn yr Oesoedd Canol Cynnar (fel yn achos Dyfed yn y de-orllewin).
Efallai fod y gaer Rufeinig ym Mhen Llystyn yn nhiriogaeth y llwyth yma, efallai ar y ffin rhyngddynt hwy a'r Ordoficiaid. Rhedai ffordd Rufeinig trwy Ben Llystyn sy'n cysylltu Segontiwm, prif gaer y Rhufeiniaid yn y gogledd-orllewin, a Tomen y Mur (ger Trawsfynydd). Mae nifer o fryngeiri yn nhiriogaeth y llwyth, gan gynnwys Tre'r Ceiri rhwng Trefor a Nefyn, Carn Fadryn a Chastell Odo ym mhen eithaf Llŷn.
Llwythau Celtaidd Cymru | ||
---|---|---|
Deceangli | Demetae | Gangani | Ordoficiaid | Silwriaid | | ||
Gwelwch hefyd: Y Celtiaid |