Robert Jones Derfel: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
→‎Doleni allanol: tacluso'r categoriau
Llinell 20: Llinell 20:
*[http://wbo.llgc.org.uk/en/s-DERF-JON-1824.html Y Bywgraffiadur Ar-lein]
*[http://wbo.llgc.org.uk/en/s-DERF-JON-1824.html Y Bywgraffiadur Ar-lein]


[[Categori:Beirdd Cymraeg|Derfel, Robert Jones]]
{{DEFAULTSORT:Derfel, Robert Jones}}
[[Categori:Dramodwyr Cymraeg|Derfel, Robert Jones]]
[[Categori:Genedigaethau 1824]]
[[Categori:Llenorion Cymraeg|Derfel, Robert Jones]]
[[Categori:Cenedlaetholdeb Cymreig|Derfel, Robert Jones]]
[[Categori:Genedigaethau 1824|Derfel, Robert Jones]]
[[Categori:Marwolaethau 1905|Derfel, Robert Jones]]
[[Categori:Marwolaethau 1905|Derfel, Robert Jones]]
[[Categori:Beirdd Cymraeg]]
[[Categori:Cenedlaetholdeb Cymreig]]
[[Categori:Dramodwyr Cymraeg]]
[[Categori:Gweriniaethwyr Cymreig]]
[[Categori:Llenorion Cymraeg]]
[[Categori:Pobl o Feirionnydd]]
[[Categori:Delweddau o gasgliad John Thomas]]
[[Categori:Delweddau o gasgliad John Thomas]]



Fersiwn yn ôl 19:37, 2 Ionawr 2009

Delwedd:R J Derfel.jpg
R J Derfel (Delwedd o Gasgliad John Thomas, Llyfrgell Genedlaethol Cymru)

Bardd ac awdur rhyddiaith Radicalaidd oedd Robert Jones Derfel neu R. J. Derfel (24 Gorffennaf 1824 - 17 Rhagfyr 1905).

Cafodd Robert Jones ei eni yn y Foty, fferm rhwng Llandderfel a Bethel, Meirionnydd, yn fab i Edward a Catrin Jones. Treuliodd gyfnod yn ddiwaith yn Llundain tua 1848 pan fu'r Siartwyr ar eu hanterth. Mabwysiadodd y cyfenw "Derfel" ar ôl symud i weithio ym Manceinion lle treuliodd y gweddill o'i oes.

Sefydlodd wasg ym Manceinion. Daeth yn bregethwr gyda'r Bedyddwyr ond troes fwyfwy at sosialaeth. Cyhoeddodd sawl cyfrol o gerddi gwladgarol a chartrefol, am fywyd y bobl gyffredin, a fu'n boblogaidd iawn.

Cyhoeddwyd nifer o lythyrau ac erthyglau ganddo yn Y Cymro a Llais Llafur rhwng 1892 a 1903. Awgrymodd mewn un llythyr y dylid mabywsiadu'r sosialydd cynnar Robert Owen fel nawddsant Cymru yn lle Dewi Sant.

Roedd yn Gymro gwladgarol a anogai bawb i siarad Cymraeg ac amddiffyn Cymru. Pan ymddangosodd ei ddrama ddychanol Brad y Llyfrau Gleision yn 1854 mabwysiadwyd y teitl gan y Cymry i gyfeirio at adroddiad y Llyfrau Gleision gwrth-Gymraeg.

Llyfryddiaeth

  • Brad y Llyfrau Gleision (1854). Drama.
  • Traethodau ac Areithiau (1864)
  • Caneuon Gwladgarol (1864). Cerddi.
  • Munudau Segur (Caernarfon, 1863). Cerddi.
  • Caneuon (1891).
  • Rhyddiaith R. J. Derfel (1945). Dwy gyfrol a olygwyd gan Gwenallt.

Doleni allanol