Melangell: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
BDim crynodeb golygu |
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau) B →Hanes a thraddodiad: Rhedeg AWB i glirio gwallau using AWB |
||
Llinell 5: | Llinell 5: | ||
==Hanes a thraddodiad== |
==Hanes a thraddodiad== |
||
Yn ôl traddodiad, roedd yn enedigol o [[Iwerddon |
Yn ôl traddodiad, roedd yn enedigol o [[Iwerddon]]. Bu yn ferch i Eithne Wyddelles a Cyfwlch Addfwyn, perthynas i Elen o Gaernarfon. Ffôdd i osgoi priodas oedd wedi ei threfnu iddi gan ei thad, a daeth i [[Powys|Bowys]] i fyw yn unig ym mhen uchaf dyffryn [[Afon Tanad]] yn 590<ref name=":0">Spencer, R, 1991, Saints of Wales and the West Country, Llanerch</ref>. Un diwrnod daeth Brochwel, Tywysog Powys, (efallai [[Brochwel Ysgithrog]]) i'r dyffryn i hela. Ymlidiodd ei gŵn hela [[ysgyfarnog]], a redodd at Melangell a llochesu dan ei gwisg. Gwrthodasant y cŵn mynd ymlaen; rhedasant i ffwrdd dan ubain. Gwnaeth hyn ddigon o argraff ar Brochwel nes peri iddo roi'r dyffryn, a elwir yn awr yn [[Pennant Melangell|Bennant Melangell]] iddi.<ref name=":0" /> |
||
Daeth Melangell yn abades cymuned Cristnogol fechan yno, ac mae'r eglwys yno wedi ei chysegru iddi. Yn yr eglwys gellir gweld [[creirfa]] Melangell, sydd wedi ei ail-adeiladu wedi iddo gael ei ddinistrio adeg y [[Diwygiad Protestannaidd]] ac sy'n un o'r esiamplau gorau o'i fath yng ngwledydd Prydain. Ymhen dwyreiniol yr eglwys mae cell fach hanr gron a elwir 'Cell y Bedd' Credir fod Melangell wedi claddu yno. Ail adeiladwyd y cell yn y 20g ar seiliau o'r 10g. |
Daeth Melangell yn abades cymuned Cristnogol fechan yno, ac mae'r eglwys yno wedi ei chysegru iddi. Yn yr eglwys gellir gweld [[creirfa]] Melangell, sydd wedi ei ail-adeiladu wedi iddo gael ei ddinistrio adeg y [[Diwygiad Protestannaidd]] ac sy'n un o'r esiamplau gorau o'i fath yng ngwledydd Prydain. Ymhen dwyreiniol yr eglwys mae cell fach hanr gron a elwir 'Cell y Bedd' Credir fod Melangell wedi claddu yno. Ail adeiladwyd y cell yn y 20g ar seiliau o'r 10g. |
Fersiwn yn ôl 05:24, 30 Rhagfyr 2017
Santes Gymreig o'r 6ed oedd Melangell (Lladin: Monacella). Mae buchedd Ladin iddi, Historia Divae Monacellae, ar gael, yn dyddio o tua'r 15g. Ei dydd gŵyl yw 27 Mai.
Hanes a thraddodiad
Yn ôl traddodiad, roedd yn enedigol o Iwerddon. Bu yn ferch i Eithne Wyddelles a Cyfwlch Addfwyn, perthynas i Elen o Gaernarfon. Ffôdd i osgoi priodas oedd wedi ei threfnu iddi gan ei thad, a daeth i Bowys i fyw yn unig ym mhen uchaf dyffryn Afon Tanad yn 590[1]. Un diwrnod daeth Brochwel, Tywysog Powys, (efallai Brochwel Ysgithrog) i'r dyffryn i hela. Ymlidiodd ei gŵn hela ysgyfarnog, a redodd at Melangell a llochesu dan ei gwisg. Gwrthodasant y cŵn mynd ymlaen; rhedasant i ffwrdd dan ubain. Gwnaeth hyn ddigon o argraff ar Brochwel nes peri iddo roi'r dyffryn, a elwir yn awr yn Bennant Melangell iddi.[1]
Daeth Melangell yn abades cymuned Cristnogol fechan yno, ac mae'r eglwys yno wedi ei chysegru iddi. Yn yr eglwys gellir gweld creirfa Melangell, sydd wedi ei ail-adeiladu wedi iddo gael ei ddinistrio adeg y Diwygiad Protestannaidd ac sy'n un o'r esiamplau gorau o'i fath yng ngwledydd Prydain. Ymhen dwyreiniol yr eglwys mae cell fach hanr gron a elwir 'Cell y Bedd' Credir fod Melangell wedi claddu yno. Ail adeiladwyd y cell yn y 20g ar seiliau o'r 10g.
Roedd yr eglwys yn gyrchfan boblogaidd i bererinion yn yr Oesoedd Canol, ac yn ddiweddar mae'r cyngor sir wedi creu llwybr "Pererindod Melangell" yn arwain yno. Mae Melangell yn nawddsant ysgyfarnogod a elwir "wyn bach Melangell" ym Maldwyn. Yn ail haner yr ugeinfed canrif, gyda diddordeb yn yr amgylchfyd yn tyfu daeth yn poblogaedd fel "nawddsantes" bywyd gwyllt yn cyfredinol.
-
Eglwys Pennant Melangell
-
Creirfa Melangell yn Eglwys Pennant Melangell
-
Arwydd: Pererindod Melangell
Llyfryddiaeth
Llyfrau i blant
- Eiry Palfrey, Melangell (Gwasg Gomer, 2005)
- Siân Lewis, Melangell: Ffrind y Sgwarnog, Cyfres Merched Cymru 6 (Gwasg Carreg Gwalch, 2012)