Owen Jones (Owain Myfyr): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
cat
D22 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 10: Llinell 10:


[[Categori:Genedigaethau 1741|Jones, Owen]]
[[Categori:Genedigaethau 1741|Jones, Owen]]
[[Categori:Marwolaethau 1741|Jones, Owen]]
[[Categori:Marwolaethau 1814|Jones, Owen]]
[[Categori:Noddwyr llenyddiaeth|Jones, Owen]]
[[Categori:Noddwyr llenyddiaeth|Jones, Owen]]
[[Categori:Hynafiaethwyr Cymreig|Jones, Owen]]
[[Categori:Hynafiaethwyr Cymreig|Jones, Owen]]

Fersiwn yn ôl 21:02, 16 Medi 2008

Un o ffigyrau amlycaf bywyd llenyddol Cymru diwedd y 18fed ganrif oedd Owen Jones, enw barddol Owain ap Huw ac yn ddiweddarach Owain Myfyr (3 Medi 1741 - 26 Medi 1814). Er nad yn llenor ei hun cysegrodd ran helaeth ei fywyd i noddi llenyddiaeth Gymraeg.

Ganed ef yn Llanfihangel Glyn Myfyr yn Sir Ddinbych, ac aeth i ddinas Llundain fel prentis crwynwr pan yn ieuanc. Erbyn iddo gyrraedd deugain oed, ef oedd perchen y busnes, a daeth yn gyfoethog.

Daeth i gysylltiad a Richard Morris, un o Forysiaid Môn a Chymry eraill yn Llundain, a datblygodd ddiddordeb mewn llenyddiaeth Gymraeg. Ymunodd ag Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, ac roedd ganddo ran amlwg mewn sefydlu Cymdeithas y Gwyneddigion yn 1770. Bu'n llywydd y gymdeithas honno nifer o wethiau.

Dechreuodd y Gwyneddigion gyhoeddi cynnwys hen lawysgrifau Cymraeg, ac yn 1789 roedd Owen Jones yn un o olygyddion cyfrol o waith Dafydd ap Gwilym. Yn 1801, cyhoeddwyd The Myvyrian Archaiology of Wales mewn dwy gyfrol a olygwyd gan Owen Jones gyda chymorth a chyfraniadau gan Iolo Morganwg a William Owen Pughe. Enwyd y llyfr ar ôl Owain Myfyr, yn erbyn ei ewyllys, gan mai ef oedd wedi talu llawer o gost eu cyhoeddi, rhai miloedd o bunnau. Mae'r ddwy gyfrol yma yn gerrig milltir pwysig yn hanes llenyddiaeth Gymraeg. Yn y gyfrol gyntaf ceir detholiad o waith y Cynfeirdd a'r Gogynfeirdd. Yn yr ail ceir detholiad da o destunau rhyddiaith Cymraeg Canol yn cynnwys Trioedd Ynys Prydain a thrioedd eraill, Bucheddau'r Saint a'r brutiau.

Cafodd Owen Jones golledion yn ei fusnes a ohiriodd ddyddiad cyhoeddi'r drydedd gyfrol am gyfnod, ond ymddangosodd yn 1807. Yn anffodus mae cynnwys y drydedd gyfrol yn ffrwyth dychymyg Iolo Morganwg ei hun. Y bwlch amlwg yn y casgliad yw'r chwedlau a'r Rhamantau. Y bwriad oedd eu cyhoeddi fel pedwaredd gyfrol ond redodd arian Myfyr allan, yn enwedig gan ei fod wedi priodi a chanddo erbyn hyn deulu ieuanc. Daeth ei fab, Owen Jones, yn amlwg fel pensaer ac awdur.