John Jones, Gellilyfdy: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 6: | Llinell 6: | ||
[[Categori:Pobl o Sir y Fflint|Jones]] |
[[Categori:Pobl o Sir y Fflint|Jones]] |
||
[[Categori:Hynafiaethwyr Cymreig|Jones]] |
Fersiwn yn ôl 17:27, 11 Medi 2008
Copïydd llawysgrifau a hynafiaethydd Cymreig oedd John Jones, Gellilyfdy (c.1578-83 — c. 1658).
Roedd yn enedigol o blas Gellilyfdy, plwyf Ysgeifiog yn Sir y Fflint. Canodd y beirdd Wiliam Llŷn a Wiliam Cynwal farwnadau ar ôl ei daid, oedd yn berchen llawysgrifau. Roedd John Jones mewn anhawsterau ariannol parhaus, a charcharwyd ef am ddyled nifer o weithiau, o leiaf dair gwaith yng Ngharchar y Fflyd yn Llundain.
Yn ystod ei dymhorau yn y carchar y gwnaeth lawer o'i waith copio llawysgrifau. Mae dros 100 o'i lawysgrifau y Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac eraill yn llyfrgell dinas Caerdydd a'r Amgueddfa Brydeinig. Roedd ganddo gysylltiad agos a Robert Vaughan, Hengwrt, ac o'r herwydd cadwyd llawer o'i lawysgrifau yng nghasgliad Hengwrt-Peniarth.