Cantref Mawr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
BDim crynodeb golygu |
|||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
:''Am y Cantref Mawr ym [[Brycheiniog|Mrycheiniog]], gweler [[ |
:''Am y Cantref Mawr ym [[Brycheiniog|Mrycheiniog]], gweler [[Tewdos]]''. |
||
[[Image:Deheubarth1.PNG|thumb|200px|de|Cantref Mawr]] |
[[Image:Deheubarth1.PNG|thumb|200px|de|Cantref Mawr]] |
||
Llinell 12: | Llinell 12: | ||
*[[Caeo (cwmwd)|Caeo]] |
*[[Caeo (cwmwd)|Caeo]] |
||
*[[Catheiniog]] |
*[[Catheiniog]] |
||
*[[ |
*[[Gwidigada]] |
||
*[[Mabelfyw]] |
*[[Mabelfyw]] |
||
*[[Mabudrud]] |
*[[Mabudrud]] |
||
*[[ |
*[[Maenor Deilo]] |
||
*[[Mallaen]] |
*[[Mallaen]] |
||
Fersiwn yn ôl 20:10, 5 Awst 2008
- Am y Cantref Mawr ym Mrycheiniog, gweler Tewdos.
Roedd y Cantref Mawr yn gantref yn ne-orllewin Cymru. Yr oedd o bwysigrwydd strategol mawr yn y Canol Oesoedd oherwydd mai yma yr oedd prif ganolfan tywysogion Deheubarth, sef Dinefwr. Ei ganolfan grefyddol oedd Abaty Talyllychau.
Roedd pob cantref wedi ei rannu i unedau llai, y cwmwd. Fel rheol byddai dau neu dri cwmwd mewn cantref, ond roedd y Cantref Mawr yn cynnwys saith cwmwd ac yn un o'r cantrefi mwyaf yng Nghymru. Roedd yn ardal fynyddig rhwng Afon Tywi, Afon Teifi ac Afon Gwili. Yn y cyfnod hwn roedd coedydd yn gwneud ymosod ar y cantref yma yn anodd, ac felly byddai'n noddfa i dywysogion Deheubarth pan ymosodid arnynt.
Gyda'r Cantref Bychan ffurfiai'r Cantref Mawr arglwyddiaeth Ystrad Tywi. Collwyd meddiant ar y Cantref Mawr gan dywysogion Deheubarth yn 1277 a daeth yn rhan o'r Sir Gaerfyrddin newydd.
Cymydau'r Cantref Mawr
Llyfryddiaeth
- Lloyd, J.E. (1911) The history of Wales from the earliest times to the Edwardian conquest (Longman, Green & Co.)