Tingoch: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
SieBot (sgwrs | cyfraniadau) B robot Ychwanegu: fr:Rouge-queue à front blanc |
B robot yn ychwanegu: sk:Žltochvost lesný |
||
Llinell 41: | Llinell 41: | ||
[[no:Rødstjert]] |
[[no:Rødstjert]] |
||
[[pl:Pleszka]] |
[[pl:Pleszka]] |
||
[[sk:Žltochvost lesný]] |
|||
[[sv:Rödstjärt]] |
[[sv:Rödstjärt]] |
||
[[tr:Bayağı kızılkuyruk]] |
[[tr:Bayağı kızılkuyruk]] |
Fersiwn yn ôl 14:52, 27 Mehefin 2008
Tingoch | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Passeriformes |
Teulu: | Muscicapidae |
Genws: | Phoenicurus |
Rhywogaeth: | P. phoenicurus |
Enw deuenwol | |
Phoenicurus phoenicurus (Linnaeus, 1758) |
Mae'r Tingoch (Phoenicurus phoenicurus) yn aderyn bychan oedd yn arfer cael ei ddosbarthu fel aelod o deulu'r Turdidae on sy'n awr yn cael ei ystyried yn aelod o deulu'r Muscicapidae, y dalwyr gwybed.
Mae'n aderyn eithaf cyffredin mewn rhannau o Ewrop yn yr haf. Mae'n aderyn mudol, yn gaeafu yng Ngogledd Affrica.
Gellir adnabod y ceiliog yn hawdd yn y tymor nythu. Mae'n aderyn lliwgar iawn gyda'r pen a'r cefn yn llwyd tywyll a'r gynffon a'r ochrau yn liw oren-frown. mae'r talcen yn wyn a llinell wen amlwg iawn uwchben y llygad. Nid yw'r iâr mor lliwgar gyda'r rhan fwyaf o'r plu yn frown, ond mae hithau hefyd yn dangos y lliw goch ar y gynffon a roes ei enw i'r aderyn. Mae tua 14 cm o hyd, tua'r un faint a Robin Goch.
Mae'r ceiliog yn cyrraedd i nythu yn Ebrill, ychydig o flaen yr iar. Ceir yr aderyn yma mewn coedydd, lle mae'n nythu mewn twll mewn coeden neu wal gerrig. Mae hefyd yn barod i ddefnyddio blychau nythu, fel yn y llun. Bydd yr iâr yn dowy pump neu chwech o wyau glas golau.
Ystyrir y Tingoch yn un o adar nodweddiadol Cymru, yn enwedig yn y coedydd derw sy'n tyfu ar y llethrau.