Penda: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 3: | Llinell 3: | ||
Roedd '''Penda''' (bu farw [[15 Tachwedd]], [[655]] yn frenin teyrnas [[Eingl-Sacsoniaid|Eingl-Sacsonaidd]] [[Mercia]] o [[626]] hyd ei farwolaeth. Yn fab i [[Pybba]], brenin Mercia, roedd yn un o frenhinoedd paganaidd olaf yr Eingl-Sacsoniaid, ac yn nodedig am gyngheirio gyda nifer o frenhinoedd Cymreig i wrthwynebu [[Northumbria]]. Ymddengys yn y traddodiadau Cymreig fel '''Panna ap Pyd'''. |
Roedd '''Penda''' (bu farw [[15 Tachwedd]], [[655]] yn frenin teyrnas [[Eingl-Sacsoniaid|Eingl-Sacsonaidd]] [[Mercia]] o [[626]] hyd ei farwolaeth. Yn fab i [[Pybba]], brenin Mercia, roedd yn un o frenhinoedd paganaidd olaf yr Eingl-Sacsoniaid, ac yn nodedig am gyngheirio gyda nifer o frenhinoedd Cymreig i wrthwynebu [[Northumbria]]. Ymddengys yn y traddodiadau Cymreig fel '''Panna ap Pyd'''. |
||
Ffurfiodd Penda gynhrair gyda brenin [[Teyrnas Gwynedd|Gwynedd]], [[Cadwallon ap Cadfan]], i ymosod ar Northumbria yn 633, a lladdwyd [[Edwin, brenin Northumbria]] ym [[Brwydr Meigen|Mrwydr Meigen]] gan roi meddiant ar Northumbria i Cadwallon a Penda. Mae'n debyg mai Cadwallon oedd arweinydd y cynghrair yma, ond pan laddwyd ef y flwyddyn wedyn, parhaodd Penda i ymgyrchu yn erbyn Northumbria, gan ladd [[ |
Ffurfiodd Penda gynhrair gyda brenin [[Teyrnas Gwynedd|Gwynedd]], [[Cadwallon ap Cadfan]], i ymosod ar Northumbria yn 633, a lladdwyd [[Edwin, brenin Northumbria]] ym [[Brwydr Meigen|Mrwydr Meigen]] gan roi meddiant ar Northumbria i Cadwallon a Penda. Mae'n debyg mai Cadwallon oedd arweinydd y cynghrair yma, ond pan laddwyd ef y flwyddyn wedyn, parhaodd Penda i ymgyrchu yn erbyn Northumbria, gan ladd [[Oswallt]], brenin [[Northumbria]] ym mrwydr [[Maes Cogwy]] (''Maserfield'') naw mlynedd yn ddiweddarach. Sefydlodd ei hun fel y mwyaf grymus o'r brenhinoedd Eingl-Sacsonaidd; gorchfygodd [[East Anglia]] a gyrrodd frenin [[Wessex]] i alltudiaeth. Yn 655 roedd yn ymgyrchu yn erbyn [[Brynaich]] mewn cynghrair ag olynydd Cadwallon fel brenin Gwynedd, [[Cadafael ap Cynfeddw]]. Gyda'r gelyn gerllaw, ymadawodd Cadafael a'i fyddin yn y nos, gan ennill iddo'i hun y llysenw "Cadafael Cadomedd". Gorchfygwyd Penda ym [[Brwydr Winwaed|Mrwydr Winwaed]] a'i ladd. |
||
Dilynwyd ef fel brenin rhan ddeheuol Mercia gan ei fab [[Peada]], tra bu rhan ogleddol y deyrnas dan reolaeth Northumbria am gyfnod. |
Dilynwyd ef fel brenin rhan ddeheuol Mercia gan ei fab [[Peada]], tra bu rhan ogleddol y deyrnas dan reolaeth Northumbria am gyfnod. |
Fersiwn yn ôl 11:34, 11 Mehefin 2008
Roedd Penda (bu farw 15 Tachwedd, 655 yn frenin teyrnas Eingl-Sacsonaidd Mercia o 626 hyd ei farwolaeth. Yn fab i Pybba, brenin Mercia, roedd yn un o frenhinoedd paganaidd olaf yr Eingl-Sacsoniaid, ac yn nodedig am gyngheirio gyda nifer o frenhinoedd Cymreig i wrthwynebu Northumbria. Ymddengys yn y traddodiadau Cymreig fel Panna ap Pyd.
Ffurfiodd Penda gynhrair gyda brenin Gwynedd, Cadwallon ap Cadfan, i ymosod ar Northumbria yn 633, a lladdwyd Edwin, brenin Northumbria ym Mrwydr Meigen gan roi meddiant ar Northumbria i Cadwallon a Penda. Mae'n debyg mai Cadwallon oedd arweinydd y cynghrair yma, ond pan laddwyd ef y flwyddyn wedyn, parhaodd Penda i ymgyrchu yn erbyn Northumbria, gan ladd Oswallt, brenin Northumbria ym mrwydr Maes Cogwy (Maserfield) naw mlynedd yn ddiweddarach. Sefydlodd ei hun fel y mwyaf grymus o'r brenhinoedd Eingl-Sacsonaidd; gorchfygodd East Anglia a gyrrodd frenin Wessex i alltudiaeth. Yn 655 roedd yn ymgyrchu yn erbyn Brynaich mewn cynghrair ag olynydd Cadwallon fel brenin Gwynedd, Cadafael ap Cynfeddw. Gyda'r gelyn gerllaw, ymadawodd Cadafael a'i fyddin yn y nos, gan ennill iddo'i hun y llysenw "Cadafael Cadomedd". Gorchfygwyd Penda ym Mrwydr Winwaed a'i ladd.
Dilynwyd ef fel brenin rhan ddeheuol Mercia gan ei fab Peada, tra bu rhan ogleddol y deyrnas dan reolaeth Northumbria am gyfnod.
Mae awgrym mewn barddoniaeth Gymraeg ei fod hefyd wedi bod mewn cynghrair a'r brenin Cynddylan, gan fod cyfeiriad ym marwnad Cynddylan at ei barodrwydd i ddod ar alwad "mab Pŷb"; cyfeiriad mae'n ymddangos at Penda, mab Pybba.
Enwyd Llannerch Banna ym Maelor Saesneg ar ei ôl.