Llangar: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: Plwyf yn ardal hanesyddol Edeirnion, gogledd Cymru, yw '''Llangar'''. Mae'n gorwedd yn Sir Ddinbych heddiw ond bu gynt yn rhan o Sir Feirionnydd. Cofnodir y plwy...
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 17:08, 3 Mehefin 2008

Plwyf yn ardal hanesyddol Edeirnion, gogledd Cymru, yw Llangar. Mae'n gorwedd yn Sir Ddinbych heddiw ond bu gynt yn rhan o Sir Feirionnydd.

Cofnodir y plwyf yn yr arolwg o Feirionnydd a wnaed ar ran Coron Lloegr yn 1292-3 fel un o chwech yng nghwmwd Edeirnion.

Gorwedd y plwyf yng nghanol Edeirnion, rhwng plwyfi Llandrillo a Chorwen, gan godi i lethrau'r Berwyn i'r dwyrain. Am y rhan fwyaf o'r Oesoedd Canol bu'n rhan o Bowys.

Canolfan y plwyf oedd y llan lle ceir Eglwys Llangar heddiw, tua hanner ffordd rhwng Cynwyd a Chorwen. yn Nyffryn Edeirnion, ar lan Afon Dyfrdwy. Bu'r llenor Edward Samuel, gŵr o Benmorfa yn Edeirnion, yn berson yno o 1721 tan 1748; aeth un o'i feibion, David Samwell (Dafydd Ddu Feddyg), yn feddyg ar fordaith y Capten James Cook yn 1776-78.