Ac Eraill: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Monsyn (sgwrs | cyfraniadau)
hei ho!
Monsyn (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 29: Llinell 29:
Eu record gyntaf oedd honno o'r un enw a'r grŵp ac a ryddhawyd ar label Sain (SAIN 34E) yn 1973 ac roedd yn cynnwys 4 cân: '[[Tua'r Gorllewin]]', 'Dianc', 'Carchar' a 'Hen Wr o'r Coed'.<ref>[https://www.discogs.com/Ac-Eraill-Ac-Eraill/release/8758789 www.discogs.com;] adalwyd 25 Awst 2017.</ref> Ar feinyl 7" hefyd, flwyddyn yn ddiweddarach, y rhyddhawyd eu hail record, ''Addewid'' {SAIN 43E) a oedd yn cynnwys 'Cwm Nantgwrtheyrn', 'Catraeth', '[[Marwnad Yr Ehedydd]]' a 'Faban Bach Clyd'.

==Disgograffaeth==
==Disgograffeg==
Dyma restr o ganeuon gan Ac Eraill. Nid yw'r rhestr yn orffenedig, ac mae'r ffeiliau yn dameidiau i aros pryd, sef y 30 eiliad cyntaf o'r traciau a recordiwyd ar label/i [[Cwmni Recordiau Sain]].<ref>[http://www.sainwales.com/cy/ sainwales.com;] adalwyd 29 Awst 2017.</ref>

Llinell 77: Llinell 77:
| Tuar Gorllewin || [[Delwedd:Tuar Gorllewin - Ac Eraill.ogg]] || 2015 || Sain SCD2729
| Tuar Gorllewin || [[Delwedd:Tuar Gorllewin - Ac Eraill.ogg]] || 2015 || Sain SCD2729
|}
|}

==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==

Fersiwn yn ôl 14:47, 29 Awst 2017

Ac Eraill

Grŵp poblogaidd, Cymraeg a gweriniaethol o'r 1970au oedd Ac Eraill a ffurfiwyd yn 1972. Roedd aelodau gwreiddiol y grŵp, yn fyfyrwyr yng Ngholeg y Bedyddwyr, Bangor (neu'n aros yno): Tecwyn Ifan, Cleif Harpwood, Iestyn Garlick a Phil Edwards ("Phil Bach"). Rhyddhawyd tair record fer ar label Sain cyn chwalu ym 1975. Blwyddyn yn ddiweddarach, ailffurfiwyd y grŵp yn un pwrpas er mwyn rhyddhau record hir Diwedd Y Gân, unwaith eto ar label Sain.

Cysylltir y grŵp gyda Mudiad Adfer a'i athroniaeth o ailfeddiannu a datblygu'r Fro Gymraeg yn hytrach na'r ardaloedd a Seisnigiwyd. Yn y cyfnod hwn y gwelwyd y chwyldro cymdeithasol a diwylliannol Cymraeg yn dod i'w lawn dwf yng Nghymru. O ran cerddoriaeth, dyma flynyddoedd y datblygu mawr ym maes recordiau Cymraeg, a hwnnw’n adlewyrdchu’r bwrlwm a'r creadigrwydd rhyfeddol yn y byd canu gwerin, pop a roc Cymraeg. Yn y byd recordio, hwnnw oedd degawd aur Stiwdio Gwernafalau, Cwmni Recordiau Sain. Yn ennill eu lle yn rheng flaen y chwyldro cerddorol hwnnw mae Ac Eraill, y lleisiau llawn harmoni, wedi eu priodi â chaneuon gafaelgar a heriol Tecwyn Ifan, y peiriant a yrrai'r drol, ond ymunodd Phil Edwards, Iestyn Garlick a Alun 'Sbardyn' Huws a ddaeth i'r amlwg drwy Ac Eraill, ynghyd â Cleif Harpwood, Huw Bala a John Morgan.[1]

Tecwyn Ifan oedd yn sgrifennu'r rhan fwyaf o ganeuon Ac Eraill. Erbyn heddiw mae rhai fel 'Nia Ben Aur', 'Tua'r Gorllewin' a 'Chwm Nant Gwrtheyrn' yn cael eu hystyried fel clasuron. Roedd yr awdur yn aelod blaenllaw o Fudiad Adfer ac mae themâu llawer o'i ganeuon yn dyst i hynny. Cyfrannwyd nifer o ganeuon at yr opera roc Nia Ben Aur a lwyfannwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Caerfyrddin ym 1974.

Eu record gyntaf oedd honno o'r un enw a'r grŵp ac a ryddhawyd ar label Sain (SAIN 34E) yn 1973 ac roedd yn cynnwys 4 cân: 'Tua'r Gorllewin', 'Dianc', 'Carchar' a 'Hen Wr o'r Coed'.[2] Ar feinyl 7" hefyd, flwyddyn yn ddiweddarach, y rhyddhawyd eu hail record, Addewid {SAIN 43E) a oedd yn cynnwys 'Cwm Nantgwrtheyrn', 'Catraeth', 'Marwnad Yr Ehedydd' a 'Faban Bach Clyd'.

Disgograffeg

Dyma restr o ganeuon gan Ac Eraill. Nid yw'r rhestr yn orffenedig, ac mae'r ffeiliau yn dameidiau i aros pryd, sef y 30 eiliad cyntaf o'r traciau a recordiwyd ar label/i Cwmni Recordiau Sain.[3]

Teitl y gân Clip sain Blwyddyn cyhoeddi Rhif Catalog
Aderyn Bach 2015 Sain SCD2729
Baban Bach Clud 2015 Sain SCD2729
Becca 2015 Sain SCD2729
Catraeth 2015 Sain SCD2729
Cenwch im Gan 2015 Sain SCD2729
Cwm Nantgwrtheyrn 2015 Sain SCD2729
Dilyniant o Ganeuon Mor 2015 Sain SCD2729
Dyn Dall 2015 Sain SCD2729
Ffa La La 2015 Sain SCD2729
Glannaur Lli 2015 Sain SCD2729
Gwely Bwrdd a Beibl 2015 Sain SCD2729
Gwin 2015 Sain SCD2729
Hen Wr or Coed 2015 Sain SCD2729
Llais y Fro 2015 Sain SCD2729
Maer Werin yn Fyw 2015 Sain SCD2729
Marwnad yr Ehedydd 2015 Sain SCD2729
Nia Ben Aur 2015 Sain SCD2729
Te Deg 2015 Sain SCD2729
Tuar Gorllewin 2015 Sain SCD2729

Cyfeiriadau

  1. www.sainwales.com; adalwyd 25 Awst 2017.
  2. www.discogs.com; adalwyd 25 Awst 2017.
  3. sainwales.com; adalwyd 29 Awst 2017.