Santes Tudful: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
del chwith |
→Hanes a thraddodiad: Manion using AWB |
||
Llinell 8: | Llinell 8: | ||
Ei dydd gŵyl yw [[23 Awst]]. |
Ei dydd gŵyl yw [[23 Awst]]. |
||
[[ |
[[Delwedd:Eicon o Santes Tudful.jpg|bawd|200px|chwith|Eicon o Santes Tudful, yn Eglwys Santes Tudful, yng nghanol tref Merthyr.]] |
||
== Cyfeiriadau== |
== Cyfeiriadau== |
Fersiwn yn ôl 20:30, 17 Awst 2017
Santes a roes ei henw i dref Merthyr Tudful oedd Tudful (bu farw c. 480).[1]
Hanes a thraddodiad
Yn ôl traddodiad, roedd Tudful yn ferch i Brychan Brycheiniog. Dywedir iddi gael ei lladd "gan baganiaid" ger Merthyr Tudful.[1]. Fodd bynnag, gall 'merthyr' yn y Gymraeg olygu "eglwys (er cof am sant neu ar ei fedd)"; ceir enwau lleol tebyg eraill yn ne Cymru, e.e. Merthyr Cynog, Merthyr Dyfan a Merthyr Mawr, a cheir merther yn y Gernyweg a merzher yn Llydaweg hefyd, i gyd mewn enwau lleoedd.[2] Gall fod y chwedl am ei lladd wedi datblygu fel ymgais i esbonio'r enw "Merthyr Tudful".
Ei dydd gŵyl yw 23 Awst.
Cyfeiriadau
- ↑ 1.0 1.1 T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyn Dŵr, 2001).
- ↑ Geiriadur Prifysgol Cymru, cyfrol III, tud. 2436.