Aneddiadau hynafol Cwm Eigiau: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
tacluso a Gwybodlenni gwleidyddiaeth (gogwydd) using AWB
Nev1 (sgwrs | cyfraniadau)
tidy
Llinell 9: Llinell 9:


==Dolen allanol==
==Dolen allanol==
* [http://www.coflein.gov.uk/cy/safle/275732/manylion/SETTLEMENT%2C+N+OF+CWM+EIGIAU/ Gwefan Coflein]</ref>
* [http://www.coflein.gov.uk/cy/safle/275732/manylion/SETTLEMENT%2C+N+OF+CWM+EIGIAU/ Gwefan Coflein]


[[Categori:Caerhun]]
[[Categori:Caerhun]]

Fersiwn yn ôl 19:22, 1 Mai 2017

Olion math o gytiau hynafol sy'n dyddio'n ôl i Oes yr Efydd yw Aneddiadau hynafol Cwm Eigiau, yng nghymuned Caerhun, Sir Conwy; cyfeiriad grid SH710639. Mae i'w weld rhwng Llyn Eigiau a Ffynnon Llugwy. Enw arall ar y math hwn o heneb yw Cytiau'r Gwyddelod, sy'n enw camarweiniol.

Cofrestrwyd yr olion hyn gan Cadw a chânt eu hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: CN236.[1] Dyma un o'r ardaloedd cyfoethocaf yn y math hwn o gytiau.

Cychwynwyd codi cytiau crynion tua 1,500 C.C. a daethant i ben tua'r adeg y daeth y Rhufeiniaid i Ynys Prydain. Mae'r brodorion a'u cododd hefyd yn gyfrifol am godi carneddau, beddrodau siambr, twmpathau, cylchoedd cerrig, bryngaerau a meini hirion. Mae nhw i'w canfod yng Ngwynedd, Môn, Sir Conwy a Sir Gaerfyrddin.

Cyfeiriadau

Dolen allanol