Colum Cille: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎Ei waith llenyddol: canrifoedd a Delweddau, replaced: 7fed ganrif7g using AWB
B cat
Llinell 26: Llinell 26:
[[Categori:Beirdd Lladin]]
[[Categori:Beirdd Lladin]]
[[Categori:Genedigaethau 521]]
[[Categori:Genedigaethau 521]]
[[Categori:Llenorion Gwyddelig]]
[[Categori:Llenorion Gwyddelig yn yr iaith Ladin]]
[[Categori:Llenorion Lladin yr Oesoedd Canol]]
[[Categori:Llenorion Lladin yr Oesoedd Canol]]
[[Categori:Llenorion y 6ed ganrif]]
[[Categori:Llenorion y 6ed ganrif]]

Fersiwn yn ôl 10:01, 21 Ebrill 2017

Roedd Colum Cille, neu Sant Columba (7 Rhagfyr 521 - 9 Mehefin, 597), yn gennad Cristnogol, yn awdur yn yr iaith Ladin, yn sefydlydd mynachlogydd ac un o'r seintiau pwysicaf yr Eglwys yn Iwerddon, a aned yn Gartan, Donegal.

Ei fywyd cynnar

Llythyren Q agoriadol o'r Cathach Columba

Ystyr ei enw yw "Colomen yr Eglwys", Columba yn Lladin. Ganed Colum Cille tua 520, yn aelod o deulu uchelwrol yr Uí Néill yng ngogledd Iwerddon. Roedd ei dad Fedlimid yn un o orwyr Niall Noigiallach, sefydlydd y llinach. Cafodd Colum Cille ei fedyddio yn Criamthann ond pan aeth yn fynach rhoddwyd iddo'r enw Columba ("Colomen yr Eglwys") yn Lladin.

Ei waith cenhadol

Yn 546 sefydlodd fynachlog Derry. Yn ddiweddarach sefydlodd fynachlogydd Durrow a Kells yn ogystal. Tua'r flwyddyn 565 aeth gyda mintai fach o ddisgyblion i ogledd yr Alban ar genadwriaeth i droi'r Pictiaid i'r ffydd newydd. Tra yno sefydlodd fynachlog Iona ar ynys fechan yn yr Hebrides (Ynysoedd Heledd). Cafodd ei gladdu yn Iona yn 597 a'i addoli wedyn fel nawddsant yr Alban.

ffynonellau am ei fywyd

Cofnodir ei waith a'i fywyd yn y fuchedd Ladin y Vita Columbae gan Adamnán, yng ngwaith y mynach Beda ac yn yr Amra Choluim Chille, mawl mydryddol a ysgrifenwyd yn fuan wedi ei farwolaeth. Mae buchedd Ladin ddiweddarach, o Iwerddon, ar glawr hefyd.

Ei waith llenyddol

Yn ôl hen draddodiad, dilys efallai, Colum Cille yw awdur y gyfres o gerddi Lladin Altus Prosator. Dywedir iddo gymryd saith mlynedd i'w chyfansoddi, mewn cell dywell heb oleuni, fel penyd am ei falchder. Mae traddodiad arall yn honni ei fod wedi'i ysgrifennu yn Iona, yn sydyn iawn, wrth falu ŷd yn felin y fynachlog.

Yn ôl traddodiad Colum Cille oedd y copïydd a ysgrifennodd y llawysgrif bwysig Cathach Sant Columba (tua dechrau'r 7g).

Llyfryddiaeth

  • M.O. Anderson (gol.), Adamnán's Life of Columba (Rhydychen, 1991)
  • M.Herbert, Iona, Kells and Derry (Rhydychen, 1988)