Yr Eglwys Gatholig Rufeinig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llusiduonbach (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
→‎Hanes: manion cyffredinol a LLByw, replaced: 20fed ganrif20g using AWB
Llinell 7: Llinell 7:
Yn yr unfed ganrif ar bymtheg digwyddodd nifer o bethau; y diwygiad Protestannaidd, [[y Chwil-lys]], trafferthion gyda brenin [[Lloegr]] ac wedyn y gwrth-ddiwygiad.
Yn yr unfed ganrif ar bymtheg digwyddodd nifer o bethau; y diwygiad Protestannaidd, [[y Chwil-lys]], trafferthion gyda brenin [[Lloegr]] ac wedyn y gwrth-ddiwygiad.


Yna bu bron pedair canrif drafferthus i'r Eglwys wrth iddi frwydro yn erbyn [[Protestaniaeth]] ac yna [[Anghydffurfiaeth]]. Gorffennodd hynny gydag ail gyngor y [[Fatican]] yn saithdegau'r [[20fed ganrif]] ac wedyn o dan arweinyddiaeth [[Pab Ioan Pawl II]] (1978-2004). Yn awr mae'r Eglwys o dan arweinyddiaeth [[Pab Ffransis]] (Jorge Maria Bergoglio).
Yna bu bron pedair canrif drafferthus i'r Eglwys wrth iddi frwydro yn erbyn [[Protestaniaeth]] ac yna [[Anghydffurfiaeth]]. Gorffennodd hynny gydag ail gyngor y [[Fatican]] yn saithdegau'r [[20g]] ac wedyn o dan arweinyddiaeth [[Pab Ioan Pawl II]] (1978-2004). Yn awr mae'r Eglwys o dan arweinyddiaeth [[Pab Ffransis]] (Jorge Maria Bergoglio).


== Nifer ==
== Nifer ==

Fersiwn yn ôl 11:04, 30 Mawrth 2017

Allweddi Sant Pedr, symbol o'r Babaeth

Yr Eglwys Gatholig (neu yr Eglwys Gatholig Rufeinig) yw'r eglwys fwyaf yn y byd, gyda thros biliwn o aelodau yn perthyn iddi. Mae'n cael ei harwain gan y Pab, sef Esgob Rhufain. Yn Rhufain mae pencadlys yr Eglwys fyd-eang, y Fatican, ac oddi yno y caiff ei rheoli.

Hanes

Yn ôl y traddodiad cafodd yr Eglwys ei sefydlu gan yr Iesu ei hun, pan newidiodd ef enw Simon i Pedr, a dywedodd taw ar y graig hon fyddai ef yn sefydlu ei Eglwys. Yn ystod y bedwaredd ganrif O.C., daeth Cristnogaeth yn brif grefydd yr Ymerodraeth Rufeinig. Yn sgil cwymp yr ymerodraeth, yn ystod yr oesoedd tywyll, fe ddanfonodd yr Eglwys Gatholig nifer fawr o genhadon i Ewrop a thramor. Ond wedi troad y mileniwm cododd ffrae rhwng rhannau gorllewinol a dwyreiniol yr Ymerodraeth, ac felly dwy ran yr Eglwys, ac fe ffurfiwyd yr eglwys Uniongred o'r rhan ddwyreiniol. Llewyrchai'r Eglwys yn ystod yr Oesoedd Canol.

Yn yr unfed ganrif ar bymtheg digwyddodd nifer o bethau; y diwygiad Protestannaidd, y Chwil-lys, trafferthion gyda brenin Lloegr ac wedyn y gwrth-ddiwygiad.

Yna bu bron pedair canrif drafferthus i'r Eglwys wrth iddi frwydro yn erbyn Protestaniaeth ac yna Anghydffurfiaeth. Gorffennodd hynny gydag ail gyngor y Fatican yn saithdegau'r 20g ac wedyn o dan arweinyddiaeth Pab Ioan Pawl II (1978-2004). Yn awr mae'r Eglwys o dan arweinyddiaeth Pab Ffransis (Jorge Maria Bergoglio).

Nifer

Mae yna tua 1,085,557,000 o Gatholigion yn y byd, yn cynnwys 5,700,000 ym Mhrydain ac 58,000,000 yn UDA.

Gweler hefyd

Eginyn erthygl sydd uchod am Gristnogaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.