Brahmagupta: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎Gweler hefyd: 4 gweithred, replaced: {{Authority control}} → {{Rheoli awdurdod}} using AWB
B →‎Gweler hefyd: clean up
Llinell 5: Llinell 5:


{{Rheoli awdurdod}}
{{Rheoli awdurdod}}

{{eginyn Indiaid}}


[[Categori:Genedigaethau 598]]
[[Categori:Genedigaethau 598]]
Llinell 11: Llinell 13:
[[Categori:Pobl y 7fed ganrif]]
[[Categori:Pobl y 7fed ganrif]]
[[Categori:Seryddwyr Indiaidd]]
[[Categori:Seryddwyr Indiaidd]]


{{eginyn Indiaid}}

Fersiwn yn ôl 13:11, 13 Mawrth 2017

Seryddwr a mathemategydd Indiaidd oedd Brahmagupta (598-670). Fe ystyriodd nifer o syniadau, sydd wedi eu derbyn fel rhan o fathemateg bellach. Ei brif gyflawniad ym maes mathemateg oedd cysyniad sero a rhifau negatif. Yn ei gampwaith Brahmasphutasiddhanta (628) (gellir cyfieithu'r teitl fel Dadorchuddio'r bydysawd), mae'n diffinio sero fel y canlyniad a geir pan mae rhif yn cael ei dynnu o'i hun - dyna oedd y diffiniad gorau o sero oedd i'w gael yn y dyddiau hynny. Mae'r Brahmasphutasiddhanta hefyd yn cynnwys yr enghraifft gyntaf a wyddys amdani o nod sero. Darparodd Brahmagupta reolau hefyd ar gyfer trin "cyfoeth" a "dyled" - sy'n cyfateb i rifau positif a negatif (ystyrir mai dyma'r defnydd hysbys cyntaf o rifau negatif). Roedd Dadorchuddio'r Bydysawd hefyd yn cynnwys algorithm ar gyfer cyfrifo ail isradd, dull ar gyfer datrys hafaliadau cwadratig, a ffurf seml ar nodiant algebraidd. Mae'r penodau eraill yn trin seryddiaeth - diffyg ar yr haul a diffyg ar y lleuad, cysylltiadau'r planedau, gweddau'r lleuad, a phenderfynu safle'r planedau.

Gweler hefyd

Baner IndiaEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Indiad. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.