Brahmagupta
Brahmagupta | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 598 ![]() Bhinmal ![]() |
Bu farw | c. 665 ![]() |
Man preswyl | Bhinmal ![]() |
Dinasyddiaeth | India ![]() |
Galwedigaeth | mathemategydd, seryddwr ![]() |
Tad | Jishnugupta ![]() |
Seryddwr a mathemategydd Indiaidd oedd Brahmagupta (598-670). Fe ystyriodd nifer o syniadau, sydd wedi eu derbyn fel rhan o fathemateg bellach. Ei brif gyflawniad ym maes mathemateg oedd cysyniad sero a rhifau negatif. Yn ei gampwaith Brahmasphutasiddhanta (628) (gellir cyfieithu'r teitl fel Dadorchuddio'r bydysawd), mae'n diffinio sero fel y canlyniad a geir pan mae rhif yn cael ei dynnu o'i hun - dyna oedd y diffiniad gorau o sero oedd i'w gael yn y dyddiau hynny. Mae'r Brahmasphutasiddhanta hefyd yn cynnwys yr enghraifft gyntaf a wyddys amdani o nod sero. Darparodd Brahmagupta reolau hefyd ar gyfer trin "cyfoeth" a "dyled" - sy'n cyfateb i rifau positif a negatif (ystyrir mai dyma'r defnydd hysbys cyntaf o rifau negatif). Roedd Dadorchuddio'r Bydysawd hefyd yn cynnwys algorithm ar gyfer cyfrifo ail isradd, dull ar gyfer datrys hafaliadau cwadratig, a ffurf seml ar nodiant algebraidd. Mae'r penodau eraill yn trin seryddiaeth - diffyg ar yr haul a diffyg ar y lleuad, cysylltiadau'r planedau, gweddau'r lleuad, a phenderfynu safle'r planedau.