Atmosffer: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
gwasgedd
B →‎top: canrifoedd a Delweddau using AWB
Llinell 1: Llinell 1:
{{Ailgyfeirio|awyrgylch|yr ystyr lenyddol a cherddorol|naws}}
{{Ailgyfeirio|awyrgylch|yr ystyr lenyddol a cherddorol|naws}}
[[Delwedd:Rotatingsaturnhexagon.gif|thumb|200px|Llun lloeren o hecsagon [[Sadwrn (planed)|Sadwrn]]. Mae'r hecsagon (sydd wedi'i leoli ger pegwn gogleddol Sadwrn ddwywaith maint y Ddaear.]]
[[Delwedd:Rotatingsaturnhexagon.gif|bawd|200px|Llun lloeren o hecsagon [[Sadwrn (planed)|Sadwrn]]. Mae'r hecsagon (sydd wedi'i leoli ger pegwn gogleddol Sadwrn ddwywaith maint y Ddaear.]]
[[Delwedd:Top of Atmosphere.jpg|200px|thumb|right|Ardal uwch atmosffer y ddaear]]
[[Delwedd:Top of Atmosphere.jpg|200px|bawd|dde|Ardal uwch atmosffer y ddaear]]


Haen o [[nwy]]on yw'r '''atmosffer''' (hefyd "atmosffêr"; o'r Groeg ἀτμός - atmos, "vapor" + σφαίρα - sphaira, "[[sffêr]]") sy'n amgylchynu planed neu gorff digon sylweddol i'w gadw drwy atyniad ei ddisgyrchiant.
Haen o [[nwy]]on yw'r '''atmosffer''' (hefyd "atmosffêr"; o'r Groeg ἀτμός - atmos, "vapor" + σφαίρα - sphaira, "[[sffêr]]") sy'n amgylchynu planed neu gorff digon sylweddol i'w gadw drwy atyniad ei ddisgyrchiant.

Fersiwn yn ôl 20:14, 4 Ionawr 2017

Llun lloeren o hecsagon Sadwrn. Mae'r hecsagon (sydd wedi'i leoli ger pegwn gogleddol Sadwrn ddwywaith maint y Ddaear.
Ardal uwch atmosffer y ddaear

Haen o nwyon yw'r atmosffer (hefyd "atmosffêr"; o'r Groeg ἀτμός - atmos, "vapor" + σφαίρα - sphaira, "sffêr") sy'n amgylchynu planed neu gorff digon sylweddol i'w gadw drwy atyniad ei ddisgyrchiant.

Mae rhai planedau megis y Cewri Nwy, sef pedair planed allanol Cysawd yr Haul, yn ddim byd ond nwy, ac felly fe ellir dweud fod ganddynt atmosffer twfn.

Atmosffer y Ddaear

Prif erthygl: Atmosffer y ddaear
Fel nifer o blanedau eraill, mae gan y Ddaear hithau fantell o nwyon amddifynnol o'i hamgylch sy'n eu hamddiffyn rhag tymheredd eithafol.

Nitrogen yw prif nwy atmosfferig y Ddaear. Ceir yn yr atmosffer hefyd ocsigen, sef nwy sy'n hanfodol i organebau byw resbiradu a'r nwy carbon deuocsid sy'n cael ei ddefnyddio gan blanhigion yn y broses o ffotosynthesis. Mae'r atmosffer hefyd yn fath o darian rhag niwed i enynnau organebau byw gan ymbelydredd uwchfioled yr haul.

Cymerwyd miliynau ar filiynau o flynyddoedd i'w greu gan newidiadau bio-cemegol wrth i organebau byw farw a dadelfennu.

Gwasgedd atmosfferig

Gwasgedd atmosfferig yw'r grym ar roddir yn berpendicwlar ar wyneb gan nwyon a chyfrifir hyn bob yn uned o arwynebedd. Mae'r gwasgedd atomosfferig yn ddibynol ar faint grym ei disgyrchiant a chyfanswm màs y golofn o nwyon uwch ei phen. Ar y Ddaear, mae'r unedau o wasgedd aer wedi eu safoni a gelwir hwy yn 'uned atmosfferig' (atm), a ddiffinir fel 101,325 Pa (760 Torr sef 14.696 pwys / modfedd agwâr (psi).

Cyfeiriadau

Chwiliwch am atmosffer
yn Wiciadur.