Gwasg argraffu: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B Symudodd Adam y dudalen Wasg argraffu i Gwasg argraffu |
y wasg yng Nghymru |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
[[Delwedd:Printer in 1568-ce.png|bawd|Darluniad o'r wasg argraffu gan Jost Amman (1568).]] |
[[Delwedd:Printer in 1568-ce.png|bawd|Darluniad o'r wasg argraffu gan Jost Amman (1568).]] |
||
Dyfais sy'n gwasgu [[inc]] ar wyneb i'w [[argraffu]], |
Dyfais sy'n gwasgu [[inc]] ar bapur neu wyneb rall i'w [[argraffu]], yw '''gwasg argraffu''' (neu'n syml, '''y wasg'''). Roedd datblygiad ac ymlediad y wasg yn un o ddigwyddiadau mwyaf dylanwadol yr ail fileniwm gan iddi greu chwyldro deallusol a chymdeithasol, nodi cychwyn [[y cyfryngau torfol]], a hebrwng yr oes fodern i mewn. Yr Almaenwr [[Johannes Gutenberg]] a ddyfeisiodd y wasg argraffu tua'r flwyddyn 1440, pan greeodd [[gwasg sgriwio|wasg sgriwio]].<ref>Kapr, Albert. ''Johannes Gutenberg: The Man and His Invention'' (Aldershot, Scolar Press, 1996).</ref> Defnyddir gwasg argraffu i gyhoeddi llyfrau a phapurau newydd. |
||
==Gweisg yng Nghymru== |
|||
Yn 1546 y cyhoeddwyd y llyfr Cymraeg cyntaf, sef ''Yn y Lhyvyr Hwnn'', ond yn Llundain y cafodd ei argraffu. Ni welwyd gwasg yng Nghymru tan |
|||
1587. Y ddau brif ysgogiad dros ddod a gwasg i Gymru oedd [[addysg]] a [[crefydd|chrefydd]]. Gallai eglwyswyr Cymreig gyhoeddi eu llyfrau yn Llundain neu [[Rhydychen|Rydychen]] ond yn ddirgel y cyhoeddodd y pabyddion eu llyfrau: yn [[Rhufain]] neu [[Ffrainc]] tan i wasg dirgel gael ei sefydlu yn Ogof Rhiwledyn, [[Llandudno]] lle gwelir heddiw olion y fan lle safodd y wasg argraffu pan y rhoed print ar bapur ac yr argraffwyd ''Y Drych Cristianogawl'' (1587). |
|||
Pan godwyd y gwaharddiadau yn 1695, un o'r gweisg gyfreithlon, cyntaf i'w sefydlu yng Nghymru oedd gwasg [[Isaac Carter]] yn [[Trerhedyn|Nhrerhedyn]], [[Llandyfrïog]], yn 1718, a daeth yn ganolfan i gyhoeddi llyfrau yng Nghymru am ddegawdau. Tair mlynedd wedyn, yn 1721, sefydlwyd gwasg yng [[Caerfyrddin|Nghaerfyrddin]] gan Nicholas Thomas, a daeth y dref yn bencadlys cyhoeddi Cymraeg am weddill y [[18c]].<ref>[[Gwyddoniadur Cymru]]; [[Gwasg y Brifysgol]]; 2008.</ref> |
|||
== Cyfeiriadau == |
== Cyfeiriadau == |
Fersiwn yn ôl 06:31, 21 Rhagfyr 2016
Dyfais sy'n gwasgu inc ar bapur neu wyneb rall i'w argraffu, yw gwasg argraffu (neu'n syml, y wasg). Roedd datblygiad ac ymlediad y wasg yn un o ddigwyddiadau mwyaf dylanwadol yr ail fileniwm gan iddi greu chwyldro deallusol a chymdeithasol, nodi cychwyn y cyfryngau torfol, a hebrwng yr oes fodern i mewn. Yr Almaenwr Johannes Gutenberg a ddyfeisiodd y wasg argraffu tua'r flwyddyn 1440, pan greeodd wasg sgriwio.[1] Defnyddir gwasg argraffu i gyhoeddi llyfrau a phapurau newydd.
Gweisg yng Nghymru
Yn 1546 y cyhoeddwyd y llyfr Cymraeg cyntaf, sef Yn y Lhyvyr Hwnn, ond yn Llundain y cafodd ei argraffu. Ni welwyd gwasg yng Nghymru tan 1587. Y ddau brif ysgogiad dros ddod a gwasg i Gymru oedd addysg a chrefydd. Gallai eglwyswyr Cymreig gyhoeddi eu llyfrau yn Llundain neu Rydychen ond yn ddirgel y cyhoeddodd y pabyddion eu llyfrau: yn Rhufain neu Ffrainc tan i wasg dirgel gael ei sefydlu yn Ogof Rhiwledyn, Llandudno lle gwelir heddiw olion y fan lle safodd y wasg argraffu pan y rhoed print ar bapur ac yr argraffwyd Y Drych Cristianogawl (1587).
Pan godwyd y gwaharddiadau yn 1695, un o'r gweisg gyfreithlon, cyntaf i'w sefydlu yng Nghymru oedd gwasg Isaac Carter yn Nhrerhedyn, Llandyfrïog, yn 1718, a daeth yn ganolfan i gyhoeddi llyfrau yng Nghymru am ddegawdau. Tair mlynedd wedyn, yn 1721, sefydlwyd gwasg yng Nghaerfyrddin gan Nicholas Thomas, a daeth y dref yn bencadlys cyhoeddi Cymraeg am weddill y 18c.[2]
Cyfeiriadau
- ↑ Kapr, Albert. Johannes Gutenberg: The Man and His Invention (Aldershot, Scolar Press, 1996).
- ↑ Gwyddoniadur Cymru; Gwasg y Brifysgol; 2008.