Dolly Pentreath: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
B categoriau
Llinell 12: Llinell 12:


{{DEFAULTSORT:Penreath, Dolly}}
{{DEFAULTSORT:Penreath, Dolly}}
[[Categori:Genedigaethau 1692]]
[[Categori:Marwolaethau 1777]]
[[Categori:Marwolaethau 1777]]
[[Categori:Cernywiaid]]
[[Categori:Cernywiaid]]
[[Categori:Cernyweg]]
[[Categori:Cernyweg]]
[[Categori:Hanes Cernyw]]
[[Categori:Hanes Cernyw]]
[[Categori:Merched yr 17eg ganrif]]
[[Categori:Merched y 18fed ganrif]]

Fersiwn yn ôl 12:49, 31 Mai 2016

Dolly Pentreath

Cernywes a ystyrir gan rai y siaradwr uniaith Gernyweg olaf oedd Dolly Pentreath (16 Mai 1692Rhagfyr 1777). Sail y traddodiad mai'r person olaf i siarad yr iaith fel mamiaith oedd Dolly Pentreath yw adroddiad Daines Barrington am gyfweliad gyda Dolly. Ond mae tystiolaeth bod rhai siaradwyr brodorol wedi parhau tan y 19eg ganrif, er bod ganddynt wybodaeth o Saesneg hefyd.

Er i Dolly ddweud, yn ôl y chwedl, "My ny vydn kewsel Sawsnek!" ("dwi ddim isio siarad Saesneg!"), roedd hi yn gallu ychydig o Saesneg o leiaf. Mae'n bosibl mai'r person olaf i siarad Cernyweg yn unig oedd Chesten Marchant, a fu farw ym 1676.

Roedd Pentreath yn byw ar hyd ei hoes ym mhlwyf Paul, ger 'Porthynys' (Saesneg: Mousehole), lle y cafodd ei chladdu hefyd; codwyd cofeb iddi ym mur y llan yn 1860 gan Louis Lucien Bonaparte, nai Napoleon.

Cofeb iddi gan Louis Lucien Bonaparte

Heddiw mae sawl person yn siarad y Gernyweg adfywiedig fel mamiaith.