Daines Barrington

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Daines Barrington
Daines Barrington.jpg
Ganwyd 1728, 1727 Edit this on Wikidata
Neuadd Beckett Edit this on Wikidata
Bu farw 14 Mawrth 1800, 1800 Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Lloegr Lloegr
Alma mater
Galwedigaeth cyfreithiwr, ethnolegydd, cyhoeddwr, cyfieithydd, hanesydd, adaregydd, naturiaethydd Edit this on Wikidata
Tad John Barrington, Is-iarll Barrington 1af Edit this on Wikidata
Mam Anne Daines Edit this on Wikidata
Gwobr/au Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Fellow of the Society of Antiquaries Edit this on Wikidata

Roedd Daines Barrington (1728 - 14 Mawrth 1800) yn farnwr, hynafiaethydd, a naturiaethwr Seisnig. Gwasanaethodd fel barnwr rhai o lysoedd gogledd Cymru ac roedd ei ddiddordeb fel hynafiaethydd yn cynnwys astudiaethau o hynafiaethau Cymreig. [1]

Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Barrington ym mhlwyf Shrivenham, Berkshire yn pedwerydd o naw o blant John Shute Barrington, Is-iarll cyntaf Barrington, bargyfreithiwr a gwleidydd, a'i wraig, Anne merch Syr William Daines o Fryste. Aeth i Goleg y Frenhines, Rhydychen ym 1745 ond ni dderbyniodd radd. Aeth i'r Deml Fewnol yn yr un flwyddyn gan gael ei alw i'r bar ym 1750. [2]

Gyrfa gyfreithiol[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar ôl cymhwyso fel bargyfreithiwr teithiodd Barrington am gyfnod byr ar gylchdaith Rhydychen. Ym 1751 penodwyd ef yn farsial uchel lys y Morlys, swydd yr ymddiswyddodd ohoni ym 1753 pan benodwyd ef yn ysgrifennydd Ysbyty Greenwich. Daeth yn farnwr sesiynau mawr siroedd Meirionnydd, Caernarfon, a Môn ym 1757, a chofiadur Bryste ym 1764 ac ail ynad Caer ym 1778. Yn rhinwedd ei swydd eisteddodd gyda Lloyd Kenyon i glywed y cais gohirio yn achos William Davies Shipley, Deon Llanelwy, ym 1783. Ym 1785 ymddiswyddodd Barrington ei holl swyddi ac eithrio'r un mwyaf gwerthfawr, sef comisiwn cyffredinol y storfeydd yn Gibraltar a dalodd dros £ 500 y flwyddyn iddo hyd ei farwolaeth.

Cyhoeddodd Barrington astudiaeth hanesyddol o'r gyfraith ym 1766, Observations on the Statutes, Chiefly the More Ancient. Cafodd y llyfr croeso brwd gan a hynafiaethwyr cyfansoddiadol, a chafodd ei hadargraffu pum gwaith hyd 1796.

Ysgrifau hynafiaethol a gwyddonol[golygu | golygu cod y dudalen]

Ym 1773 cyhoeddodd Barrington rifyn o Orosius, gyda fersiwn Sacsonaidd y Brenin Alffred, a chyfieithiad Saesneg gyda nodiadau. Ysgrifennodd ei Tracts on the Probability of reaching the North Pole (1775) o ganlyniad i'r fordaith ogleddol o ddarganfyddiad a wnaed gan y Capten Constantine John Phipps, yr Arglwydd Mulgrave.

Mae ysgrifau eraill Barrington i'w cael yn bennaf yng nghyhoeddiadau'r Gymdeithas Frenhinol a Chymdeithas yr Hynafiaethwyr: fe'i hetholwyd i'r ddau gorff ym 1767, ac wedi hynny daeth yn is-lywydd yr olaf. Ei gyhoeddiad gyntaf i drafodion Cymdeithas yr Hynafiaethwyr Archaeologia oedd ei bapur ar gestyll Cymru. Casglwyd llawer o'r papurau hyn ganddo mewn cyfrol gwarto o'r enw Miscellanies on various Subjects (1781). [3] Cyfrannodd at Drafodion Athronyddol y Gymdeithas Frenhinol ar gyfer 1770, hanes ymweliad Mozart yn naw mlwydd oed â Llundain. [4] Yn ei Miscellanies mae'n ail gyhoeddi ei astudiaeth o Mozart ar y cyd a chyfrifon am bedwar plentyn athrylithgar arall, sef William Crotch, Charles a Samuel Wesley, a Garret Wesley, Iarll 1af Mornington. Ymhlith ei weithiau mae astudiaethau ar Arbrofion ac Arsylwadau ar Ganu Adar a thraethawd ar iaith adar. Ceisiodd Barrington arbrofion traws faethu ar adar a nododd y gallai llinosiaid ifanc a megir gyda rhieni maeth gael eu cymell i ddysgu caneuon amryw o rywogaethau ehedydd. [5] Fodd bynnag, gwrthododd y syniad o fudo pellter hir mewn adar, a chefnogodd y syniad hynafol bod gwenoliaid yn mynd i gysgu o dan y dŵr yn ystod y gaeaf. [6]

Cyfarfu Barrington â'r siaradwr Cernyweg Dolly Pentreath a chyhoeddodd erthygl am y cyfarfyddiad. Yr erthygl hon yw prif ffynhonnell yr honiad mai Dolly oedd siaradwr olaf yr iaith. Flwyddyn ar ôl i Dolly Pentreath farw ym 1777, derbyniodd Barrington lythyr, a ysgrifennwyd yng Nghernyweg ynghyd â chyfieithiad Saesneg, gan bysgotwr ym Mhorthenys o’r enw William Bodinar yn nodi ei fod yn gwybod am bump o siaradwyr Cernyweg yn y pentref hwnnw. Mae Barrington hefyd yn son am John Nancarrow o Marghasyow a oedd yn siaradwr brodorol ac a oroesodd i'r 1790au. [7]

Marwolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Ni fu Barrington yn briod. Bu'n fyw am ran fwyaf ei oes yn ei siambrau yn King's Bench Walk yn y Deml Fewnol, Llundain. Cafodd ei barlys o'i goesau i fyny a bu farw ar ôl bod yn gaeth i'w wely am gyfnod hir yn 72 mlwydd oed. Rhoddwyd ei weddillion i orwedd mewn claddgell yn Eglwys y Deml.


Mae gan y Llyfrgell Genedlaethol Cymru casgliad archifau am y person yma. [8]


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Daines Barrington - Y Bywgraffiadur Cymreig
  2. Daines Barrington - Bywgraffiadur Rhydychen
  3. Barrington, Daines (1781). Miscellanies. London, Printed by J. Nichols, sold by B. White [etc.]
  4. Barrington, Daines (1771-01-01). "VIII. Account of a very remarkable young musician. In a letter from the Honourable Daines Barrington, F. R. S. to Mathew Maty, M.D. Sec. R. S". Philosophical Transactions of the Royal Society of London 60: 54–64. doi:10.1098/rstl.1770.0008. https://royalsocietypublishing.org/doi/10.1098/rstl.1770.0008.
  5. Barrington, Daines (1773-01-01). "XXXI. Experiments and observations on the singing of birds, by the Hon. Daines Barrington, Vice Pres. R. S. In a letter to Mathew Maty, M. D. Sec. R. S.". Philosophical Transactions of the Royal Society of London 63: 249–291. doi:10.1098/rstl.1773.0031. https://royalsocietypublishing.org/doi/10.1098/rstl.1773.0031.
  6. Barrington, Daines; Watson, William (1772-01-01). "XX. An essay on the periodical appearing and disappearing of certain birds, at different times of the year. In a letter from the Honourable Daines Barrington, Vice-Pref. R. S. to William Watson, M. D. F. R. S". Philosophical Transactions of the Royal Society of London 62: 265–326. doi:10.1098/rstl.1772.0022. https://royalsocietypublishing.org/doi/10.1098/rstl.1772.0022.
  7. "Dolly Pentreath, the last monoglot Cornish Language speaker". www.cornwall-calling.co.uk. Cyrchwyd 2020-10-22.
  8. "Barrington, Daines, 1727-1800 - National Library of Wales Archives and Manuscripts". archives.library.wales. Cyrchwyd 2020-10-22.