Sian Gwenllian: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dafyddt (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Dafyddt (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 31: | Llinell 31: | ||
[[Categori:Pobl o Wynedd]] |
[[Categori:Pobl o Wynedd]] |
||
[[Categori:Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2016–2021]] |
[[Categori:Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2016–2021]] |
||
[[Categori:Merched yr 20fed ganrif]] |
|||
[[Categori:Merched yr 21ain ganrif]] |
Fersiwn yn ôl 15:05, 6 Mai 2016
Siân Gwenllian | |
Aelod Cynulliad dros Arfon
| |
Deiliad | |
Cymryd y swydd 6 Mai 2016 | |
Rhagflaenydd | Alun Ffred Jones |
---|---|
Geni | |
Plaid wleidyddol | Plaid Cymru |
Alma mater | Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Caerdydd |
Mae Siân Gwenllian yn Gynghorydd Sir Plaid Cymru dros Y Felinheli, Gwynedd. Rhwng 2010 - 2012 roedd yn gyfrifol am bortffolio cyllid yr awdurdod. Rhwng 2012 - 2014 hi oedd yr aelod cabinet addysg, arweinydd plant a phobol ifanc a dirprwy arweinydd y cyngor. Yn 2014, cafodd y swydd o Bencampwr Busnesau Bach Gwynedd, yn gyfrifol am hyrwyddo'r sector yma o economi Gwynedd.
Fe'i haddysgwyd yn ysgol Friars, Bangor ac ym mhrifysgolion Aberystwyth a Chaerdydd. Yna bu’n newyddiadurwr efo’r BBC a HTV ym Mangor cyn dod yn gynghorydd sir dros Y Felinheli, y pentref lle'i maged.
Yn 2015, fe'i dewisiwyd i sefyll fel ymgeisydd Plaid Cymru yn Arfon ar gyfer etholiadau’r Cynulliad yn 2016. Mae'n olynu Alun Ffred Jones, Aelod Cynulliad presennol Arfon, sy’n ymddeol.
Magodd Siân bedwar o blant ar ei phen ei hun wedi i’w gwr, Dafydd Vernon o Benygroes, farw o ganser 17 mlynedd yn ôl. Roedd hyn yn her enfawr ond mae wedi ei gwneud yn gryf a thosturiol. Aeth y plant i’r ysgol yng Nghaernarfon.