Jacob van Ruisdael: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Newydd
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 07:52, 20 Tachwedd 2015

Jacob van Ruisdael
Melin Wynt ger Wijk bij Duurstede]] (c. 1670)
Ganwyd1628 neu 1629
Haarlem, Gweriniaeth yr Iseldiroedd
Bu farw(1682-03-10)10 Mawrth 1682
Amsterdam, Gweriniaeth yr Iseldiroedd
DinasyddiaethGweriniaeth yr Iseldiroedd
MudiadOes Aur Paentio yn yr Iseldiroedd

Roedd Jacob Isaackszoon van Ruisdael (Ynganiad Iseldireg: [ˈjaːkɔp vɑn ˈrœysdaːl] (Ynghylch y sain ymagwrando); c. 1629 – 10 Mawrth 1682) yn un o gewri 'Oes Aur Paentio yn yr Iseldiroedd'. Roedd hefyd yn arlunydd hynod o doreithiog a gallai addasu i'w amgylchiadau, ond arbenigai mewn tirluniau.

Roedd tri o'i deulu'n arlunwyr deheuig, gan gynnwys ei dad Isaack van Ruisdael, ei ewyrth adnabyddus Salomon van Ruysdael a'i gefnder a alwyd hefyd yn Jacob Salomonsz van Ruysdael. Nid yw pob llun o'r cyfnod wedi'i arwyddo, na'i ddyddio, a gall adnabod perchnogaeth rhai o'r lluniau fod yn faen tramgwydd i'r beirniad celf.

O 1646 ymlaen, tirluniau o'r Iseldiroedd oedd thema'r rhan fwyaf o baentiadau Ruisdael, a'r rheiny o safon uchel. Yna daeth cyfnod o ddylanwad Almaenig, wedi iddo ymweld â'r wlad honno, gyda'r paentiadau'n fwy 'arwrol'. Ar ddiwedd ei oes, tra'n gweithio o Amsterdam, cafwyd tirluniau mwy dinesig eu naws a golygfeydd glan y môr, lle roedd yr awyr yn aml yn cymryd dros ddau draean o'r llun. Ei unig ddisgybl nodedig y gwyddom amdano oedd Meindert Hobbema.


Cyfeiriadau