Brahmagupta: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Awdurdod |
B →Gweler hefyd: 4 gweithred, replaced: {{Authority control}} → {{Rheoli awdurdod}} using AWB |
||
Llinell 3: | Llinell 3: | ||
== Gweler hefyd == |
== Gweler hefyd == |
||
* [[Fformwla Brahmagupta]] |
* [[Fformwla Brahmagupta]] |
||
{{Rheoli awdurdod}} |
|||
[[Categori:Genedigaethau 598]] |
[[Categori:Genedigaethau 598]] |
||
Llinell 12: | Llinell 14: | ||
{{eginyn Indiaid}} |
{{eginyn Indiaid}} |
||
{{Authority control}} |
Fersiwn yn ôl 12:23, 26 Ebrill 2015
Seryddwr a mathemategydd Indiaidd oedd Brahmagupta (598-670). Fe ystyriodd nifer o syniadau, sydd wedi eu derbyn fel rhan o fathemateg bellach. Ei brif gyflawniad ym maes mathemateg oedd cysyniad sero a rhifau negatif. Yn ei gampwaith Brahmasphutasiddhanta (628) (gellir cyfieithu'r teitl fel Dadorchuddio'r bydysawd), mae'n diffinio sero fel y canlyniad a geir pan mae rhif yn cael ei dynnu o'i hun - dyna oedd y diffiniad gorau o sero oedd i'w gael yn y dyddiau hynny. Mae'r Brahmasphutasiddhanta hefyd yn cynnwys yr enghraifft gyntaf a wyddys amdani o nod sero. Darparodd Brahmagupta reolau hefyd ar gyfer trin "cyfoeth" a "dyled" - sy'n cyfateb i rifau positif a negatif (ystyrir mai dyma'r defnydd hysbys cyntaf o rifau negatif). Roedd Dadorchuddio'r Bydysawd hefyd yn cynnwys algorithm ar gyfer cyfrifo ail isradd, dull ar gyfer datrys hafaliadau cwadratig, a ffurf seml ar nodiant algebraidd. Mae'r penodau eraill yn trin seryddiaeth - diffyg ar yr haul a diffyg ar y lleuad, cysylltiadau'r planedau, gweddau'r lleuad, a phenderfynu safle'r planedau.
Gweler hefyd