Persli: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Legobot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 76 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q25284 (translate me)
B Llythyren fach using AWB
Llinell 16: Llinell 16:
}}
}}

[[Perlysieuyn]] [[Planhigyn blodeuol|blodeuol]], defnyddiol iawn yn y gegin yw'r '''Persli''' neu'r '''Perllys''' (Lladin: ''Petroselinum crispum''; Saesneg: ''Parsley'') ac fe'i tyfir mewn gerddi i roi blas ar fwyd. Ond mae iddo ei beryglon hefyd. Mae ei flas yn eitha tebyg i flas [[llysiau'r bara]] (Sa: ''coriander''), ond nad yw cweit mor gryf.

== Gwahanol fathau ==
== Gwahanol fathau ==
Llinell 28: Llinell 28:

== Rhinweddau meddygol ==
== Rhinweddau meddygol ==
Dywedir fod y gwreiddiau'n cynnwys mwy o ddaioni na'r dail. Mae'r persli'n llawn o [[Fitamin C]], [[Fitamin A]] a mwynau gwerthfawr sy'n lleddfu problemau yn yr [[aren]]nau a'r [[pledren|bledren]]. Gellir gwasgu'r dail a'r gwreiddiau er mwyn defnyddio'r olew i ladd [[llau pen]].<ref>Llysiau Rhinweddol gan Ann Jenkins, cyhoeddwyd gan Wasg Gomer, 1982.</ref><ref>[http://www.gardensablaze.com/HerbParsleyMed.htm Gwefan Saesneg 'Gardens Ablaze']</ref>

Gofal: dylai merched beichiog beidio bwyta perllys rhag iddynt gael problemau gyda'r arennau.
Gofal: dylai merched beichiog beidio bwyta perllys rhag iddynt gael problemau gyda'r arennau.
Llinell 41: Llinell 41:
* [[Rhestr o afiechydon a phlanhigion gyda rhinweddau meddygol]]
* [[Rhestr o afiechydon a phlanhigion gyda rhinweddau meddygol]]

[[Categori:Llysiau rhinweddol]]
{{eginyn planhigyn}}

[[Categori:Llysiau Rhinweddol]]
[[Categori:Perlysiau]]
[[Categori:Perlysiau]]
[[Categori:Llysiau]]
[[Categori:Llysiau]]
[[Categori:Apiaceae]]
[[Categori:Apiaceae]]

{{eginyn planhigyn}}

Fersiwn yn ôl 03:23, 19 Ebrill 2015

Persli
Llun botanegol o'r planhigyn Persli
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Ddim wedi'i restru: Asteridau
Urdd: Apiales
Teulu: Apiaceae
Genws: Petroselinum
Rhywogaeth: P. crispum
Enw deuenwol
Petroselinum crispum
(Mill.) Fuss

Perlysieuyn blodeuol, defnyddiol iawn yn y gegin yw'r Persli neu'r Perllys (Lladin: Petroselinum crispum; Saesneg: Parsley) ac fe'i tyfir mewn gerddi i roi blas ar fwyd. Ond mae iddo ei beryglon hefyd. Mae ei flas yn eitha tebyg i flas llysiau'r bara (Sa: coriander), ond nad yw cweit mor gryf.

Gwahanol fathau

Ceir dau fath cyffredin: y ddeilen gyrliog a drafodir yn yr erthygl hon a'r ddeilen llyfn, fflat (Lladin: Petroselinum neapolitanum) sydd â blas cryfach oherwydd fod mwy o'r olew apiol ynddo.[1] Ond tyfu'r math cyrliog mae llawer o arddwyr, gan ei fod yn fwy anhebyg i'r cegid (Sa: hemlock).

Math arall sy'n gyffredin drwy Ewrop ac UDA yw'r 'Perllys gwreiddiog' sy'n cael ei dyfu'n unswydd am ei wreiddyn - sy'n edrych yn debyg iawn i panas.

Planhigyn cynorthwyol

(Saesneg: Companion plant). Mae'r perllys yn cael ei blannu'n aml, nid er mwyn ei fwyta, ond oherwydd ei fod yn atynnu gwenyn i'r ardd. Mae e felly'n cynorthwyo planhigion eraill. Er enghraifft, mae'n cael ei blannu ger planhigion tomato er mwyn dennu'r wenynen feirch, er mwyn iddi hithau ladd 'siani fachog y tomato' (Sa: tomato hornworms) sy'n gloddesta ar neithdar y planhigyn perllys. Yn ai, mae'r perllys yn creu arogl cryf iawn sy'n cuddio arogl y planhigyn tomato, ac felly mae hwnnw'n cael llonydd.

Rhinweddau meddygol

Dywedir fod y gwreiddiau'n cynnwys mwy o ddaioni na'r dail. Mae'r persli'n llawn o Fitamin C, Fitamin A a mwynau gwerthfawr sy'n lleddfu problemau yn yr arennau a'r bledren. Gellir gwasgu'r dail a'r gwreiddiau er mwyn defnyddio'r olew i ladd llau pen.[2][3]

Gofal: dylai merched beichiog beidio bwyta perllys rhag iddynt gael problemau gyda'r arennau.

Cyfeiriadau

  1. Gerddi Osage: persli
  2. Llysiau Rhinweddol gan Ann Jenkins, cyhoeddwyd gan Wasg Gomer, 1982.
  3. Gwefan Saesneg 'Gardens Ablaze'

Gweler hefyd

Eginyn erthygl sydd uchod am blanhigyn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato