John Bryn Roberts: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
→Llyfryddiaeth: manion using AWB |
|||
Llinell 32: | Llinell 32: | ||
[[Categori:Gwleidyddion Cymreig yr 20fed ganrif]] |
[[Categori:Gwleidyddion Cymreig yr 20fed ganrif]] |
||
[[Categori:Marwolaethau 1931]] |
[[Categori:Marwolaethau 1931]] |
||
[[Categori:Plaid Ryddfrydol (DU)]] |
|||
[[Categori:Pobl o Wynedd]] |
[[Categori:Pobl o Wynedd]] |
||
[[Categori:Rhyddfrydiaeth]] |
Fersiwn yn ôl 01:05, 12 Mawrth 2015
Cyfreithiwr a gwleidydd Rhyddfrydol Cymreig oedd John Bryn Roberts (8 Ionawr 1843 – 14 Ebrill 1931).
Bywgraffiad
Roedd yn fab i Daniel Roberts, Llanddeiniolen ac Anne Jones, Plas Gwanas, Sir Feirionnydd. Er mai tenant ar staf y Faenol oedd ei dad ar y pryd, roedd y teulu yn weddol gefnog, ac yn ddiweddarach prynodd ei dad ei fferm ei hun yn Nhrefarthen ar Ynys Môn.
Addysgwyd ef gartref, yna yn Ysgol Ramadeg Cheltenham. Daeth yn gyfreithiwr, ac yn 1906 yn farnwr ym Morgannwg. Yn 1918, trosglwyddwyd ef i Gylchdaith Gogledd Cymru a Chaer, lle bu hyd ei ymddeoliad yn 1921.
Yn etholiad cyffredinol 1885, enillodd sedd Eifion fel ymgeisydd Rhyddfrydol, gan guro'r Ceidwadwr H.J. Ellis Nanney. Daliodd y sedd hyd 1906, pan ymddiswyddodd oherwydd ei benodiad fel barnwr.
Ystyrid ef yn elyniaethus i Lloyd George a mudiad Cymru Fydd, er ei fod fel Lloyd George yn gwrthwynebu Rhyfel y Boer.
Llyfryddiaeth
- Jack Eaton Judge John Bryn Roberts (Gwasg Prifysgol Cymru, 1989)
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: etholaeth newydd |
Aelod Seneddol Eifion 1885 – 1906 |
Olynydd: Ellis William Davies |