Rhaeadr Niagara: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
John Jones (sgwrs | cyfraniadau)
del
Dim crynodeb golygu
Llinell 17: Llinell 17:
:Pan fo hwnnw ar daith gydag ef ei hun.
:Pan fo hwnnw ar daith gydag ef ei hun.


== Gweler hefyd ==
* [[Rhaeadrau Iguazú]]


{{Cyswllt erthygl ddethol|ast}}
{{Cyswllt erthygl ddethol|ast}}

Fersiwn yn ôl 23:33, 23 Ebrill 2014

Rhaeadr Niagara.

Rhaeadr enwog sy'n gorwedd ar y ffin rhwng Canada a'r Unol Daleithiau yw Rhaeadr Niagara (Saesneg:Niagara Falls; Ffrangeg: Chutes du Niagara).

Mae'r rhaeadr, sydd mewn gwirionedd yn gyfres o raeadrau cysylltiedig, ar Afon Niagara rhwng Llyn Erie a Llyn Ontario. Ar ei mwyaf mae'n 43m o uchder.

Ceir dwy ddinas o'r enw Niagara Falls, yn wynebu ei gilydd dros yr afon, un ohonynt yn nhalaith Efrog Newydd a'r llall yn nhalaith Ontario, yn Canada.

Rhaeadr Niagara yn y gaeaf

Dyma rigwm T.H. Parry-Williams a gyfansoddodd ar ymweliad â'r llecyn ar ddechrau'r 1930au:

'Roedd enfys fore ar y tawch a'r stŵr
Yng ngwynder dymchwel disgynfa'r dŵr,
A'm llygaid innau'n ei chael yn eu tro
Yn 'sgytwad na chollir o gorff na cho'.
Ysigol yw gwyrthiau'r ddaear ar ddyn
Pan fo hwnnw ar daith gydag ef ei hun.

Gweler hefyd

Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol