Ansar al-Sharia (Tiwnisia): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda ':''Am fudiadau eraill o'r un enw, gweler Ansar al-Sharia (gwahaniaethu).'' Mae '''Ansar al-Sharia''' (Arabeg : أنصار الشريعة sef 'Amd...' |
|||
Llinell 12: | Llinell 12: | ||
[[Categori:Gwleidyddiaeth Tunisia]] |
[[Categori:Gwleidyddiaeth Tunisia]] |
||
[[Categori:Islamiaeth]] |
[[Categori:Islamiaeth]] |
||
[[Categori: |
[[Categori:Mudiadau terfysgol]] |
||
[[en:Ansar al-Sharia (Tunisia)]] |
|||
[[fr:Ansar al-Charia (Tunisie)]] |
Fersiwn yn ôl 17:58, 13 Awst 2013
- Am fudiadau eraill o'r un enw, gweler Ansar al-Sharia (gwahaniaethu).
Mae Ansar al-Sharia (Arabeg : أنصار الشريعة sef 'Amddiffynwyr y Gyfraith Islamaidd'; Ffrangeg: Ansar al-Charia) yn fudiad islamaidd salaffaidd sy'n weithgar yn Tiwnisia ac sy'n hawlio tua 100,000 o gefnogwyr.[1]
Mae'r mudiad yn weithgar ar sawl ffrynt. Ar un lefel, mae aelodau Ansar al-Sharia yn cymryd rhan ym mywyd gwleidyddol Tiwnisia gyda phrotestiadau yn erbyn seciwlariaeth a dylanwadau tramor "anfoesol" e.e. ffilmiau fel Persepolis. Maent hefyd yn darparu elusen i Fwslemiaid tlawd. Ond mae'r mudiad yn cynnwys elfennau jihadaidd hefyd sy'n credu mewn defnyddio trais i sefydlu Islamiaeth yn y wlad ac mewn gwledydd eraill ac a gyhuddir o weithrediadau terfysgol.
Cysylltir jihadwyr Ansar al-Sharia gyda grwp o wrthryfelwyr Islamaidd sydd wedi sefydlu eu hunain ym mynyddoedd Jebel Chambi, ger Kasserine yng ngorllewin y wlad, ger y ffin ag Algeria. Lladdwyd wyth milwr Tiwnisiaidd gan y gwrthryfelwyr ar 29 Gorffennaf 2013.[2] Ddechrau mis Awst 2013 dechreuodd byddin Tiwnisia ymosod ar eu llochesau gan ddefnyddio gynnau ac ymosodiadau o'r awyr gan awyrennau Llu Awyr Tiwnisia. Yn ôl terfysgwr a ddalwyd, mae'r jihadwyr yn cynnwys Algeriaid, Mawretaniaid a Nigeriaid ond mae'r mwyafrif yn Tiwnisiaid.[3]
Cyfeiriadau
- ↑ [http://mideast.foreignpolicy.com/posts/2013/03/08/meeting_tunisias_ansar_al_sharia Aaron Y. Zelin, 'Meeting Tunisia's Ansar al-Sharia', Foreign Policy, 8 Mawrth 2013.
- ↑ Tunisie : Le terroriste Mohamed Habib Amri a filmé le massacre des 8 militaires au Mont Chaambi Kapitalis.tn.
- ↑ Tunisie : Le terroriste Mohamed Habib Amri a filmé le massacre des 8 militaires au Mont Chaambi Kapitalis.tn.