Jebel Chambi
![]() | |
Math | mynydd ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Kasserine ![]() |
Gwlad | ![]() |
Uwch y môr | 1,544 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 35.2067°N 8.6831°E ![]() |
Cadwyn fynydd | Dorsal Tiwnisia ![]() |
![]() | |
Mynyddoedd yng ngorllewin Tiwnisia yw Jebel Chambi (Arabeg: جبل الشعانبي), sy'n cynnwys copa uchaf y wlad honno (1544m). Mae'n rhan o gadwyn y Dorsal ac yn gorwedd i'r gorllewin o Kasserine a'r mynyddoedd i'r de-orllewin o El Kef, yng ngogledd-orllewin canolbarth Tiwnisia, am y ffin ag Algeria.
Natur
[golygu | golygu cod]Agorwyd Parc Cenedlaethol Chambi yn 1980 er mwyn gwarchod planhigion a bywyd gwyllt yr ardal.
Brwydro 2013
[golygu | golygu cod]Yn 2013, ymsefydlodd grwp o wrthryfelwyr Islamaidd ym mynyddoedd Jebel Chambi. Lladdwyd wyth milwr Tiwnisiaidd gan y gwrthryfelwyr ar 29 Gorffennaf 2013.[1] Ddechrau mis Awst 2013 dechreuodd byddin Tiwnisia ymosod ar eu llochesau gan ddefnyddio gynnau ac ymosodiadau o'r awyr gan awyrennau Llu Awyr Tiwnisia. Yn ôl terfysgwr a ddalwyd, mae'r jihadwyr yn cynnwys Algeriaid, Mawritaniaid a Nigeriaid ond mae'r mwyafrif yn Tiwnisiaid.[1]