Y Ddraenen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Addbot (sgwrs | cyfraniadau) B Bot: Migrating 1 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q7796421 (translate me) |
|||
Llinell 15: | Llinell 15: | ||
[[Categori:Ardaloedd Caerdydd]] |
[[Categori:Ardaloedd Caerdydd]] |
||
[[en:Thornhill, Cardiff]] |
Fersiwn yn ôl 02:22, 22 Mawrth 2013
Ardal yng Nghaerdydd yw Draenen Pen-y-graig (Saesneg: Thornhill), sy'n gorwedd ar gyrion gogleddol y ddinas ar y ffordd i Gaerffili.
Tai sydd yn yr ardal yn bennaf, a'r rhan fwyaf yn dyddio o'r 1980au neu'n ddiweddarach. Mae hefyd sawl tafarn ac archfarchnad Sainsbury's.
Ychydig iawn o safleoedd hanesyddol sydd yn Nraenen Pen-y-graig. Mae gweddillion castell ar y ffin rhwng Caerffili a Draenen Pen-y-graig, sef Castell Morgraig.
Lleolir Draenen Pen-y-graig yn ward Llanisien Cyngor Dinas Caerdydd.
Addysg
Dim ond Ysgol Gynradd Draenen Pen-y-graig sydd wedi ei lleoli yn yr ardal ei hun. Darperir addysg gynradd Gymraeg gan Ysgol y Wern yn Llanisien.
Bydd plant o'r ardal naill ai yn mynychu ysgol gyfrwng Saesneg, Ysgol Uwchradd Llanisien, neu Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf yn Ystum Taf.