Ogof Pen-y-Fai: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
→Dolenni allanol: newidiadau man using AWB |
Addbot (sgwrs | cyfraniadau) B Bot: Migrating 4 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q1378083 (translate me) |
||
Llinell 24: | Llinell 24: | ||
[[Categori:Penrhyn Gŵyr]] |
[[Categori:Penrhyn Gŵyr]] |
||
[[Categori:Safleoedd archaeolegol Pen-y-bont ar Ogwr]] |
[[Categori:Safleoedd archaeolegol Pen-y-bont ar Ogwr]] |
||
[[de:Red Lady of Paviland]] |
|||
[[en:Red Lady of Paviland]] |
|||
[[pl:Czerwona Dama z Paviland]] |
|||
[[ru:Красная дама из Пэйвиленда]] |
Fersiwn yn ôl 19:07, 8 Mawrth 2013
Ogof gynhanesyddol wedi'i lleoli ger Rhosili ar y Gŵyr (cyfeiriad grid SS951807) yw Ogof Paviland (neu Ogof Pen-y-Fai). Mae'n un o gyfres o ogofâu wedi'u cysylltu, ac a fu'n gartref i bobl filoedd o flynyddoedd cyn Crist. Darganfuwyd yno fwyeill llaw o Hen Oes y Cerrig, dannedd bleiddiaid ac esgyrn eirth.
Ond y darganfyddiad pwysicaf oedd sgerbwd corff dynol o Hen Oes y Cerrig a adnabyddir dan yr enw "Arglwyddes Goch Pen-y-Fai". Gwnaed y darganfyddiad hwnnw gan yr hynafiaethydd ac archaeolegydd cynnar William Buckland yn 1823 yn Ogof Twll y Gafr. Credai Buckland ac eraill mai sgerbwd merch oedd hi ond dangoswyd mai gweddillion dyn ifanc tuag 21 oed ydyw. Roedd yn byw tua 29,000 o flynyddoedd yn ôl. Paentiwyd ei sgerbwd a lliw ochre coch, fel amddiffyn yn erbyn pwerau maleisus yn ôl pob tebyg (arfer cyffredin yn y cyfnod hwnnw). Dyma'r gweddillion dynol modern (Homo sapiens sapiens) hynaf a ddarganfuwyd ym Mhrydain a'r claddu defodol hynaf y gwyddys amdano yn Ewrop i gyd. Cafwyd penglog mamoth yn ei ymyl ond yn anffodus mae hynny ar goll erbyn hyn.
Ymhlith y darganfyddiadau diweddarach o'r ogof y mae casgliad o bennau gwaywffyn a chrafwyr croen callestr, sydd efallai i'w dyddio i'r cyfnod Aurignasiaidd.
Cadw
Mae'r heneb hon wedi'i chofrestru gan Cadw gyda'r Rhif SAM unigryw: GM434 [1] Ceir ail ogof gerllaw cyfeiriad grid SS437859 sydd wedi'i chofrestru gan Cadw gyda'r Rhif SAM unigryw: GM504