Thomas Telford: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.3) (robot yn ychwanegu: ml:തോമസ് ടെൽഫെഡ് |
newidiadau man using AWB |
||
Llinell 9: | Llinell 9: | ||
Bu farw Telford yn [[1834]] a chafodd ei gladdu yn [[Abaty San Steffan]]. |
Bu farw Telford yn [[1834]] a chafodd ei gladdu yn [[Abaty San Steffan]]. |
||
⚫ | |||
{{DEFAULTSORT:Telford, Thomas}} |
{{DEFAULTSORT:Telford, Thomas}} |
||
Llinell 15: | Llinell 17: | ||
[[Categori:Peirianwyr Albanaidd]] |
[[Categori:Peirianwyr Albanaidd]] |
||
[[Categori:Peirianwyr sifil]] |
[[Categori:Peirianwyr sifil]] |
||
⚫ | |||
[[cs:Thomas Telford]] |
[[cs:Thomas Telford]] |
Fersiwn yn ôl 10:38, 8 Mawrth 2013
Peirianydd o'r Alban oedd Thomas Telford (9 Awst, 1757 - 2 Medi, 1834), a anwyd yn Eskdale.
Yn ddyn ifanc gweithiodd fel saer maen. Yn 1783 symudodd i Lundain. Yn 1787 llwyddodd i gael swydd yn arolygydd y ffyrdd yn Sir Amwythig. Mewn canlyniad fe'i penodwyd yn beirianydd ar gyfer Camlas Ellesmere.
Aeth i'r Alban ar ran y llywodraeth i baratoi adroddiad ar gyflwr ffyrdd yr Alban a gweithiodd wedyn ar Camlas Caledonia rhwng Inbhir Nis ac An Gearasdan.
Yng Nghymru bu'n beirianydd ar waith yr A5 rhwng y gororau a Chaergybi, gan gynnwys adran Nant Ffrancon, ac ar rannau o ffordd yr arfordir (yr A55 heddiw), er enghraifft ym Mhenmaenmawr (Penmaen-mawr a Phenmaen-bach) ac yn cynnwys Pont Grog Conwy. Ei waith mwyaf enwog yw'r bont grog a gododd dros Afon Menai yn 1826, sef Pont y Borth.
Bu farw Telford yn 1834 a chafodd ei gladdu yn Abaty San Steffan.