Francisco Franco: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.3) (Robot: Yn newid xmf:ფრანცისკო ფრანკო yn xmf:ფრანსისკო ფრანკო |
newidiadau man using AWB |
||
Llinell 9: | Llinell 9: | ||
Nodweddid ei gyfnod mewn grym gan bwyslais trwm ar draddodiad Sbaen a Chatholigiaeth, a gwrthwynebiad cryf i unrhyw fygythiad i awdurdod canolog. |
Nodweddid ei gyfnod mewn grym gan bwyslais trwm ar draddodiad Sbaen a Chatholigiaeth, a gwrthwynebiad cryf i unrhyw fygythiad i awdurdod canolog. |
||
⚫ | |||
{{DEFAULTSORT:Franco, Francisco}} |
{{DEFAULTSORT:Franco, Francisco}} |
||
Llinell 16: | Llinell 17: | ||
[[Categori:Hanes Sbaen]] |
[[Categori:Hanes Sbaen]] |
||
[[Categori:Unbeniaid]] |
[[Categori:Unbeniaid]] |
||
⚫ | |||
[[als:Francisco Franco]] |
[[als:Francisco Franco]] |
Fersiwn yn ôl 08:24, 8 Mawrth 2013
Roedd Francisco Franco Bahamonde (4 Rhagfyr 1892 - 20 Tachwedd 1975), yn gadfridog a ddaeth yn unben Sbaen o ganlyniad i Ryfel Cartref Sbaen rhwng 1936 a 1939 ac a gadwodd ei afael ar y wlad hyd ei farwolaeth.
Ganed ef yn Ferrol, Sbaen. Roedd ei dad yn y llynges, ond gan fod prinder swyddi yn y llynges, penderfynodd Franco ymuno a'r fyddin. Aeth i academi filwrol Toledo, lle graddiodd yn safle 251 allan o 312. Cafodd yrfa fwy llwyddiannus wedyn, gan ddod yn gadfridog ieuengaf y fyddin.
Pan ddechreuodd y fyddin baratoi gwrthryfel yn erbyn llywodraeth adain-chwith Sbaen yn 1936, roedd Franco'n amlwg yn y paratoadau. Y prif arweinwyr eraill ymhlith y swyddogion a geisiodd gipio grym oedd José Sanjurjo ac Emilio Mola. José Sanjurjo oedd wedi ei fwriadu fel yr arweinydd, ond fe'i lladdwyd mewn damwain awyren wrth hedfan o Bortiwgal i Sbaen, a daeth Franco yn arweinydd. Daeth yn arweinydd y lluoedd Cenedlaethol, ac ar ddiwedd y rhyfel cartref ar 1 Ebrill 1939, yn unben Sbaen. Roedd ganddo berthynas weddol agos ag Adolf Hitler a Benito Mussolini, oedd wedi ei gynorthwyo yn y rhyfel cartref, ond gwrthododd ymuno a hwy yn yr Ail Ryfel Byd.
Nodweddid ei gyfnod mewn grym gan bwyslais trwm ar draddodiad Sbaen a Chatholigiaeth, a gwrthwynebiad cryf i unrhyw fygythiad i awdurdod canolog.