Torri mawn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B dolen |
→Gweler hefyd: newidiadau man using AWB |
||
Llinell 8: | Llinell 8: | ||
== Gweler hefyd == |
== Gweler hefyd == |
||
* [[Mawn]] |
* [[Mawn]] |
||
[[Categori:Amaeth yng Nghymru]] |
[[Categori:Amaeth yng Nghymru]] |
Fersiwn yn ôl 15:16, 7 Mawrth 2013
Arferid tan y 19eg ganrif dorri mawn ar fynydd-dir Cymru; wedi torri sypiau o'r pridd du hwn, a'u sychu, fe'u rhoid ar y tân i gynhesu'r bwthyn.[1] Mae'r arfer o dorri mawn yn parhau mewn rhai rhannau o Iwerddon, Y Ffindir, ac ar Ynysoedd Allanol Heledd yn yr Alban, er nad yw'n cael ei gyfri'n ymarfer da gan bobl sy'n ymwneud â chadwraeth.
Fel hyn y dywed Hugh Evans: "Torrid y mawn ddechrau'r haf gan y dynion, a chodid hwy gan y plant a'r merched yn sypiau, â lle i'r gwynt fynd rhyngddynt i'w sychu, a cherrid hwy adref i'r tŷ mawn, neu eu gwneuthur yn deisi rhwng y ddau gynhaeaf, a hefyd ar ôl y caynhaeaf ŷd. Yr oedd yr "haearn mawn" yn erfyn pwrpasol at y gwaith ac ni ddefnyddid ef i ddim arall. Torrid y mawn yn sgwâr fel brics..."
Cyfeiriadau
- ↑ Cwm Eithin gan Hugh Evans, tudalen 105, Gwasg y Brython, 1931.