Torri mawn

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Arferid tan y 19g dorri mawn ar fynydd-dir Cymru; wedi torri sypiau o'r pridd du hwn, a'u sychu, fe'u rhoid ar y tân i gynhesu'r bwthyn.[1] Mae'r arfer o dorri mawn yn parhau mewn rhai rhannau o Iwerddon, Y Ffindir, ac ar Ynysoedd Allanol Heledd yn yr Alban, er nad yw'n cael ei gyfri'n ymarfer da gan bobl sy'n ymwneud â chadwraeth.

Fel hyn y dywed Hugh Evans: "Torrid y mawn ddechrau'r haf gan y dynion, a chodid hwy gan y plant a'r merched yn sypiau, â lle i'r gwynt fynd rhyngddynt i'w sychu, a cherrid hwy adref i'r tŷ mawn, neu eu gwneuthur yn deisi rhwng y ddau gynhaeaf, a hefyd ar ôl y caynhaeaf ŷd. Yr oedd yr "haearn mawn" yn erfyn pwrpasol at y gwaith ac ni ddefnyddid ef i ddim arall. Torrid y mawn yn sgwâr fel brics..."

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Cwm Eithin gan Hugh Evans, tudalen 105, Gwasg y Brython, 1931.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]